Kirsty Williams Llun: Gwefan y Dems Rhydd
Mae penodiad Kirsty Williams i gabinet Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar ganiatâd ei phlaid mewn cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn.
Daeth y newyddion heddiw fod unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi derbyn swydd fel Ysgrifennydd Addysg yng nghabinet newydd Cymru.
Mewn datganiad dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod yr Aelod Cynulliad dros Sir Faesyfed a Brycheiniog wedi dod i “gytundeb blaengar” gyda’r Prif Weinidog, ond na fyddai’n derbyn y swydd yn llawn heb sêl bendith aelodau ei phlaid.
‘Cyfoeth o brofiad’
Wrth gyhoeddi’r penodiad dywedodd Carwyn Jones bod gan Kirsty Williams “gyfoeth o brofiad” a’i bod yn un o “wleidyddion mwyaf galluog y Cynulliad.”
Drwy ddod at y cytundeb hwn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llwyddo i wthio rhai o’i pholisïau ar agenda’r Llywodraeth.
Mae’r rhain yn cynnwys lleihau maint dosbarthiadau plant bach i ddim mwy na 25, sicrhau bod mwy o nyrsys, ariannu 20,000 o gartrefi cynaliadwy ychwanegol, cyflwyno system “Rhentu i Berchenogi’ ar dai a dod â gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl i ben.
‘Hyder ac uchelgais i weithio gyda’n gilydd’
Wrth gael ei phenodi, dywedodd Kirsty Williams fod y llywodraeth yng Nghymru wedi “cyrraedd cyfnod newydd”.
“Lle mae ‘na dir cyffredin, rhaid i ni gael yr hyder a’r uchelgais i weithio gyda’n gilydd er gwell y bobol,” meddai.
“Byddaf yn gweithio gydag eraill yn y Llywodraeth, ar draws y Cynulliad a gyda rhieni, myfyrwyr, cyflogwyr ac athrawon yn ein huchelgais i gael y safonau uchaf a chyfle i bawb.
“Byddaf yn agored i syniadau a mentergarwch o bob ochr – adref a thu hwnt.
“Rwy’n cytuno gyda’r Prif Weinidog nad oes gan yr un blaid monopoli ar syniadau da. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi dod at gytundeb ar amryw o faterion sy’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd er budd Cymru.”
‘Nid clymblaid’
Mewn datganiad dywedodd Carwyn Jones: “Heddiw, rwyf wedi gwahodd Kirsty Williams AC i ymuno â Llywodraeth Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Mae gan Kirsty gyfoeth o brofiad ac mae’n un o wleidyddion mwyaf galluog y Cynulliad.”
Ond fe bwysleisiodd nad “yw’r gwahoddiad hwn i ymuno â’r Llywodraeth yn gyfystyr â chytundeb clymblaid, mae’r ddau ohonom yn glir iawn am hynny – fel y mae ein pleidiau.”
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, wedi croesawu penodiad Kirsty Williams, gan ddweud ei fod yn “galondid” gweld rhai o bolisïau’r blaid yn rhan o’r Llywodraeth.
“Mae Kirsty Williams o hyd wedi bod yn gynhaliwr safonau da dros ddemocratiaeth ryddfrydol ac anghenion addysg, a bydd yn parhau i wneud hynny o fewn a’r tu allan i’r Llywodraeth.”