Llun: Universal Engineering
Mae mudiad iaith wedi mynegi “pryder mawr” am ddiffyg cyfleoedd i hyfforddi a dilyn prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg at Lywodraeth Cymru, roedd 95% o’r prentisiaethau a gynhaliwyd yng Nghymru ers 2011 wedi’u cynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Roedd hynny’n gyfanswm o 179,515 prentisiaeth o gyfanswm o 189,695.

“Mae’r diffyg darpariaeth [yn y Gymraeg] yn destun pryder mawr,” meddai Toni Schiavone ar ran y mudiad.

 

‘Trawsnewid y sefyllfa’

 

Dywedodd fod y mudiad  yn bwriadu llythyru â’r llywodraeth i bwyso arnyn nhw i gynyddu’r cyfleoedd yn y Gymraeg – a hynny wedi i’r Blaid Lafur a’r pleidiau eraill addo i gynyddu’r cyfleoedd.

“Gyda phob plaid yn y Cynulliad yn addo cynnydd sylweddol yn nifer y prentisiaethau yng Nghymru, mae ’na gyfle nawr i drawsnewid y sefyllfa a rhoi’r Gymraeg wrth galon y cynllun,” meddai Toni Schiavone.

Dywedodd fod cynnydd “bach iawn” wedi’i wneud o ran darparu hyfforddiant yn y Gymraeg yn ddiweddar, ond bod “diffiniad y Llywodraeth o beth sy’n gyfystyr â ‘gweithgaredd’ Cymraeg mor wan.”

 

“Mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol os yw hi i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.

Hyfforddi ‘yn eu dewis iaith’

Mewn ymateb i sylwadau’r gymdeithas, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “ymrwymo i sicrhau y gall unigolion fanteisio ar gyfleoedd dysgu a hyfforddi yn eu dewis iaith.”

Dywedodd y llefarydd eu bod wedi cynnal gwerthusiad annibynnol fel rhan o’r rhaglen brentisiaethau, gyda’r canlyniadau’n dangos bod “prentisiaid sy’n siarad Cymraeg yn nodi’n gyffredinol eu bod wedi cael cynnig cyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg.”

“Ar ôl cwblhau eu prentisiaeth, dywedodd dros 80% o’r rheiny a ymatebodd eu bod wedi cael cyfle i gwblhau rhywfaint o’u dysgu a’u hasesu, os nad pob rhan ohono, drwy’r Gymraeg ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eu cwrs,” ychwanegodd y llefarydd.