Mae cynhyrchydd y rhaglen boblogaidd Only Fools and Horses, a gafodd ei eni yn Aberhonddu, Powys, wedi marw’n 79 oed.

Gareth Gwenlan oedd pennaeth comedi y BBC a BBC Cymru rhwng 1983 a 1990 a chomisiynodd rhaglenni poblogaidd fel Yes Prime Minister, Blackadder, ‘Allo ‘Allo a One Foot In The Grave.

Roedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen Butterflies, Rise of Reginald Perrin, To The Manor Born a High Hopes.

Fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd, fe enillodd 12 o enwebiadau Bafta a dwy Wobr Academi.

Cafodd ei wneud yn gymrawd i Goleg Cerdd a Drama Cymru yn 1998 ac yn 2013, cafodd OBE gan y frenhines.

Cafodd ei eni yn Aberhonddu a’i fagu yng Nghefn Coed, ger Merthyr Tudful. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn Swydd Hertford, Lloegr.

“Gwneud i’r genedl chwerthin”

“Roedd Gareth Gwenlan yn un o gynhyrchwyr comedi gorau Prydain,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

“Roedd yn arloeswr, yn berffeithydd, ac yn gwybod beth oedd yn gwneud i’r genedl chwerthin – pa goffâd gwell ’na gwybod eich bod wedi dod a hwyl a hapusrwydd i filiynau o bobl.”