Mae'r arweinwyr gwleidyddol yn hoff o feirniadu'i gilydd yn ystod dadleuon - ond pa mor barod ydyn nhw i gydnabod llwyddiannau pleidiau eraill, neu eu methiannau eu hunain? (llun:BBC Cymru)
Dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi bod yn holi gwleidyddion ar hyd a lled Cymru cyn etholiadau’r Cynulliad – a heddiw mae’r etholwyr o’r diwedd yn cael cyfle i fwrw eu pleidlais.

Mae record y llywodraeth Lafur presennol ym Mae Caerdydd wedi bod dan y chwyddwydr – ydyn nhw wedi gwneud gwaith da neu job sâl, ac os ydyn nhw, oes ‘na blaid arall sydd yn haeddu eu pleidlais?

Rydyn ni wedi bod yn sgwrsio ag arweinwyr rhai o’r prif bleidiau yng Nghymru yn fanwl am eu polisïau eisoes – gallwch ddarllen y cyfweliadau â Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams yma.

Ar ddiwedd y cyfweliadau fe wnaethon ni hefyd ofyn iddyn nhw roi marc allan o 10 i lywodraeth y tymor Cynulliad diwethaf, a doedd hi ddim yn syndod clywed y gwrthbleidiau yn beirniadu tra bod Llafur yn canmol.

Ond a oedden nhw’n barod i roi ateb cytbwys, a rhoi clod i eraill neu syrthio ar eu bai? Neu ai ateb plwyfol ‘ni sy’n iawn, nhw sy’n anghywir’ oedd ganddyn nhw fel yr arfer?

Cewch chi benderfynu – a gadael i ni wybod sut fyddech chi’n asesu perfformiad y llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf!

Carwyn Jones


"Agos at 10 bydden i'n dweud!"
“Mae hwnna’n rhywbeth i bobol Cymru fesur ar 5 Mai. Bydden i’n dweud ein bod ni’n agos at 10! Ond nage ‘mhenderfyniad i yw hwnna.”

Dim lle i wella felly?

“Mae wastad lle i wella. Os bod gyda chi maniffesto, chi ddim yn dweud eich bod chi wedi gwneud popeth a ‘dyn ni’n mynd i gario ‘mlaen gwneud pethau fel maen nhw wedi bod – nid felly mae hi.

“Mae amgylchiadau’n newid ac mae’n rhaid i chi ymdopi â’r amgylchiadau hynny.”

Andrew RT Davies


"O leiaf fe wnaethon nhw droi lan"
“Pedwar.” Rhesymau?

“Dyblu amseroedd aros, diffyg cronfa driniaeth ganser, yr anallu i gynyddu cyflogau yma yng Nghymru … ac mae safonau addysg yn y tablau Pisa diweddaraf wedi llithro hefyd.

“Maen nhw wedi troi lan, eistedd yn y siambr, pwyso botymau. Am droi lan gawn nhw ambell farc!”

Leanne Wood

“Pedwar? Am ymdrech? Wel, mae canlyniadau wedi bod yn siomedig, felly alla’i ddim rhoi mwy iddyn nhw na hynny.”


"O leiaf d'yn ni heb weld streic meddygon iau yma yng Nghymru" (llun: Stefan Rousseau/PA)
Unrhyw beth fyddech chi’n rhoi clod iddyn nhw yn ei gylch?

“Pan chi’n edrych dros y ffin ar bethau fel streic y meddygon iau, ac rydyn ni wedi llwyddo i osgoi hynny yng Nghymru ac mae consensws rhwng y pleidiau i osgoi’r agenda o breifateiddio yna o fewn iechyd, wedyn maen nhw’n haeddu rhywfaint o glod am hynny.

“Ond fydden i ddim yn rhoi’r clod i gyd i’r llywodraeth, achos mae consensws trawsbleidiol wedi bod ar gadw’r gwahaniaeth yna yma yng Nghymru.”

Kirsty Williams


Doedd Kirsty Williams ddim am roi marc
“Mewn sawl maes mae wedi bod yn wael iawn. Mae ein rhestrau aros yn uwch nag erioed, y ffaith bod Cymru dal yn dlotach na gweddill Prydain, a’u bod wedi methu eu targedau cyrhaeddiad addysg yn brawf o hynny.”

Dim marc felly? Unrhyw beth fyddech chi’n ei ganmol?

“Dw i’n ddiolchgar iawn fod y llywodraeth, ar ôl gwrthwynebu i ddechrau, wedi cytuno i gefnogi fy mesur i ar lefelau nyrsio diogel … [a hefyd] ein bod ni wedi sicrhau fod mwy o arian yn mynd i’n hysgolion ni a’r disgyblion tlotaf.

“Ond gadewch i ni fod yn glir – fe ddigwyddodd hynny dim ond oherwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol wneud i hynny ddigwydd.”