Wrth i ffermwyr llaeth wynebu toriadau pellach yn eu prisiau llaeth y mis hwn a mis Mehefin, mae NFU Cymru wedi galw ar i’r gadwyn gyflenwi gydnabod “difrifoldeb” y sefyllfa a dod o hyd i atebion.

Mae’r sector ar hyn o bryd yn wynebu’r prisiau isaf ers saith mlynedd, ac mae cwmnïau sy’n prynu llaeth o Gymru, fel Arla, First Milk, Muller, Glanbia, Hufenfa De Caernarfon a Dairy Crest, wedi cyhoeddi toriadau pellach.

Yn ôl NFU Cymru, mae llawer o ffermwyr Cymru yn cael llai na 16 ceiniog y litr am eu llaeth, y prisiau isaf ers 2009.

‘Ffermwyr methu parhau fel hyn’

Erbyn hyn, mae’r gost o gynhyrchu llaeth yn uwch na’r hyn mae’r ffarmwr cyffredin yn ei gael am y cynnyrch, yn ôl Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, Aled Jones, sy’n dweud nad yw ffermwyr yn gallu “parhau fel hyn”.

“Mae angen cwmnïau cydweithredol arnom i ystyried ffyrdd newydd o reoli risg i gefnogi eu hunain a’r ffermwyr sy’n eu cyflenwi, dyw parhau i ddilyn y cwymp yn y farchnad ddim yn ddigon da,” meddai.

Angen ‘mentrau’ i sicrhau ffyniant y sector

Diolchodd i fusnesau sydd wedi “cadw at eu mentrau llaeth a chaws drwy gydol y cwymp yn y farchnad,” gan ddweud bod hyn yn dod â “chynaliadwyedd” i ffermwyr llaeth.

“Hoffem weld pob rhanddeiliad o fewn y gadwyn gyflenwi yn cymryd camau tuag at gyflwyno egwyddorion cynaliadwy i’w cadwyni cyflenwi eu hunain,” ychwanegodd.

“Bydd hyn yn creu mwy o gydweithio, gan wneud y gadwyn gyflenwi’n effeithlon ac yn sicrhau bod y sector llaeth yn y DU yn parhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad ryngwladol.”