Bydd hi’n costio mwy i barcio ym Mhowys o hyn ‘mlaen wrth i’r cyngor sir gynyddu pris ei drwyddedau parcio o ddechrau Mai 2016.
Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i hyn ddigwydd ar ôl i’r cyngor ddweud y llynedd ei fod yn cynyddu cost tocynnau tymor ar gyfer ei feysydd parcio talu ac arddangos gan nad oedd newid wedi bod “ers cryn amser.”
Dywedodd y Cynghorydd John Brunt, Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Briffyrdd, bod y cynnydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o dair blynedd, ond pwysleisiodd bod y tocyn tymor yn parhau i fod yn llawer gwell bargen na thocyn diwrnod.
‘Rhatach na thocynnau dydd’
Dywedodd y Cynghorydd John Brunt: “Rydym wedi ceisio cadw prisiau trwyddedau parcio mor isel â phosibl ar ôl dod i gytundeb y llynedd y byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd.
“Mae trwyddedau ar gael am gyfnodau o fis, tri mis, chwe mis a deuddeg mis, ac yn dipyn rhatach na phrynu tocynnau dydd.
“Mae’r drwydded deuddeg mis yn ostyngiad o 56% wedi’i seilio ar bris defnydd pum diwrnod yr wythnos dros 46 wythnos, ond gallwch ei ddefnyddio am 12 mis cyfan.”
Mae cost tocyn parcio 12 mis ar gyfer car bellach yn £325, £185 am chwe mis a £100 am dri mis. Mae tocyn parcio am fis yn £40.