Clawr y rhifyn diweddaraf o Natur Cymru (llun: Natur Cymru)
Mae cylchgrawn Natur Cymru wedi dweud wrth golwg360 y byddan nhw’n sefydlu cronfa ‘crowdfund’ er mwyn ceisio codi digon o arian i’w hachub.

Daw hyn yn sgil toriadau ariannol y mae’r cylchgrawn, sy’n sôn am fywyd gwyllt ac amgylchedd Cymru, yn ei wynebu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r corff wedi penderfynu peidio ariannu swydd rheolwr cynhyrchu rhan amser y cylchgrawn, ac mae hynny wedi’i gadael ar “glogwyn ariannol” yn ôl ei olygydd James Robertson.

Gyda’r ymgyrch ar-lein mae Natur Cymru yn gobeithio codi £15,000 i ariannu’r swydd hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Rydym am geisio cadw i fynd,” meddai Mandy Marsh, y rheolwr cynhyrchu presennol, sy’n dweud bod y cylchgrawn yn gobeithio dod o hyd i “atebion eraill”.

“Methu cynnal” – Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, eu bod yn gweithio gyda’r cylchgrawn chwarterol “i’w helpu i ystyried opsiynau posib”.

“Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein holl waith i sicrhau y caiff ein hadnoddau eu defnyddio yn y lle cywir yn erbyn yr holl flaenoriaethau rydym yn gorfod delio â nhw,” meddai cyfarwyddwr strategol Cyfoeth Naturiol Cymru, Ceri Davies.

“Rydym wedi dod at y casgliad na allwn gynnal y mewnbwn sylweddol o amser staff ar Natur Cymru.

“Ar ôl gweithio’n galed i gefnogi Natur Cymru, yn ariannol ac mewn ffyrdd eraill, am dros 15 mlynedd, rydym dal am weld model cynaliadwy newydd ar gyfer ei chynhyrchu yn y dyfodol ac rydym yn gweithio gyda nhw i’w helpu i ystyried opsiynau posib.”

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw, gan ddweud mai “mater i Gyfoeth Naturiol Cymru” oedd hyn.