Clarach (Llun: gwefan Gweilch y pysgod Dyfi)
Mae un o gywion gwalch pysgod ym Mhrosiect Gweilch Bro Ddyfi wedi dychwelyd i Gymru yn oedolyn am y tro cyntaf.

Mae Clarach, sydd wedi’i henwi ar ôl yr afon, wedi cael ei gweld ar nyth yng Nglaslyn.

Hi oedd cyw cyntaf Glesni a Monty, y gweilch sydd ym Mro Ddyfi ar hyn o bryd, a chafodd hi ei geni ar Fehefin 28, 2013.

Gwnaeth Monty a Glesni baru pan na ddaeth Nora, partner blaenorol Monty, yn ôl yn 2013, a chawson nhw ddau gyw – Clarach a Cerist.

Fel arfer, dydy gweilch y pysgod ddim yn dychwelyd i wledydd Prydain am hyd at dair blynedd.

Roedd hi’n 51 diwrnod oed pan adawodd hi’r nyth – yr ieuengaf o gywion benywaidd Cymru ar y pryd i adael ei nyth.

Dywedodd Alwyn Ifans o’r Prosiect wrth Golwg360: “Gwyrthiol ydi’r gair. Mi oedd o’n fwynhad ac yn brofiad emosiynol.

“Ar ddechrau’r prosiect, roedden ni wedi bod yn meddwl ‘Sgwn i os gawn ni gyw, tybed?’ Mi oedden ni’n croesi’n bysedd y cawn ni.”

Ychwanegodd fod gwefannau cymdeithasol y prosiect wedi mynd yn “hollol loerig” yn dilyn y newyddion ac y “bu bron iddyn nhw grasio”.

“Gobeithio y bydd hyn yn gam ymlaen i fagu gweilch y pysgod yng Nghymru.”

Eglurodd mai ceiliogod yn hytrach na ieir sy’n debygol o ddychwelyd i’w nyth yn ddiweddarach, ac mai un o bob tri chyw yn unig sy’n debygol o oroesi eu blwyddyn gyntaf ar ôl gadael y nyth.

Monty, Glesni a Blue 24

Yn y cyfamser, mae’n ymddangos bod y ‘triongl serch’ rhwng tri o’r gweilch wedi dod i ben am y tro.

Roedd disgwyl i Monty, sydd eisoes wedi paru gyda Glesni eleni, fynd at Blue 24, un arall o’r ieir sydd wedi sefydlu nyth yn yr ardal.

Ond mae’n ymddangos bellach ei bod hi ar ei phen ei hun a bod Monty yn rhoi ei holl sylw ar hyn o bryd i Glesni.

Ychwanegodd Alwyn Ifans: “Mae Blue 24 wedi dechrau gadael y nyth am gyfnodau hirach erbyn hyn, a dydy hi ddim wedi cael pysgod gan Monty ers pythefnos.”

Eglurodd fod ceiliogod yn fwy tebygol o fynd at nyth nag at iâr ac felly bod Monty, i bob pwrpas, wedi dewis Glesni ar draul Blue 24 a bod hynny’n golygu ei bod hi’n llai tebygol y bydd Blue 24 yn cael cywion eleni.

Ychwanegodd mai mewn 1% o achosion yn unig y mae dwy nyth ceiliog yn llwyddo.