Vanessa Young (o'i thudalen LinkedIn)
Fe fydd rhaid cael newid sylweddol ym maes iechyd yng Nghymru, yn ôl pennaeth newydd y Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yma.

Yn ôl Vanessa Young, mae angen i’r Llywodraeth nesa’ ar ôl yr etholiad weithio ar gynllun deng mlynedd i sicrhau dyfodol y Gwasanaeth.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud newidiadau tros gyfnod ond bellach mae angen newid llawer mwy radical,” meddai wrth Radio Wales ar ôl dod i’w swydd newydd ddechrau’r wythnos.

Mae hi’n siarad ar ran y Conffederasiwn sy’n cynrychioli’r holl gyrff sy’n cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Plaid Cymru’n galw am newid y drefn

Fe allai’r sylwadau gael eu gweld yn gefnogaeth anfwriadol i ymgyrch Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad.

Nhw yw’r unig blaid sy’n cynnig newid sylfaenol yn nhrefn y gwasanaeth ac mae wedi cael ei beirniadu’n hallt am hynny gan y pleidiau eraill.

Mae Plaid Cymru’n addo dod â’r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd a chael gwared ar Fyrddau Iechyd i greu Gwasanaeth Iechyd Cymunedol.

Angen wynebu’r problemau’

Dyw Vanessa Young ddim wedi dweud pa fath o newid sydd ei angen ond mae wedi pwysleisio’r angen i bobol ddeall y problemau sydd o flaen y gwasanaeth ac wedi galw am drafodaeth agored.

Mae hi wedi bod yn gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ar un adeg i oedd prif gyfrifydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Y brolem fwya’, meddai, yw cynnydd mewn galw.