Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Llanbedr Pont Steffan Llun: Gwefan y brifysgol
Mae myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi gosod eu prifysgol ar waelod rhestr o’r prifysgolion gwaethaf yng ngwledydd Prydain.

Mae gan y brifysgol gampysau yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe.

Ond mae’r brifysgol wedi ymateb yn chwyrn i’r arolwg, gan ddweud mai sampl “bach iawn” o safbwyntiau a gymerwyd ac nad oedd yn gynrychioladol o farn gyffredinol eu myfyrwyr.

Ymhlith y prifysgolion eraill ar waelod rhestr Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni roedd Prifysgol y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Wolverhampton, Prifysgol Bradford, Prifysgol Fetropolitan Llundain a Phrifysgol Dwyrain Llundain.

Abertawe’n codi

Roedd newyddion gwell i Brifysgol Abertawe, wrth iddyn nhw gyrraedd y trydydd safle ar restr o’r prifysgolion gorau yn ôl myfyrwyr.

Daeth Prifysgol Bangor yn bedwerydd yn y categori Prifygol Orau.

Yn ogystal, cipiodd Bangor y wobr gyntaf ar gyfer y Llety Myfyrwyr Gorau ym Mhrydain; roedden nhw’n ail ar gyfer Cyrsiau a Darlithoedd, a thrydydd ar gyfer Cefnogaeth i Fyfyrwyr.

Prifysgol Harper Adams yn Sir Amwythig ddaeth i’r brig, tra bod Loughborough yn ail.

Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar ymateb 25,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr mewn 10 categori.

‘Arf marchnata’

Yn eu hymateb i golwg360 fe gwestiynodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y modd y daeth yr arolwg i’w chasgliadau.

“Nid yw’r Brifysgol yn derbyn y canlyniad hwn o gwbl. Mae’r sampl a ddefnyddiodd What Uni yn un bach iawn ac nid yw’n gynrychioliadol o’r myfyrwyr yn gyffredinol,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.

“Mae’r ffaith fod sylwadau ein myfyrwyr wedi’u rhestru mewn dau le ar safle What Uni, sef Caerfyrddin/Llambed ac Abertawe yn creu darlun cymhleth a chamarweiniol o’r canlyniadau.

“Wedi dweud hynny, roedd nifer o sylwadau da iawn ar y wefan gan ein myfyrwyr yn cynnwys sylw gan fyfyrwraig o Abertawe a ddywedodd “Gallwn ddim fod wedi dewis prifysgol neu gwrs gwell! Tiwtoriaid gwych, cwrs cyffrous ac amrywiol, tref wych i fyfyrwyr . . .”  Mae’r sylwadau hyn yn cydfynd â’r canlyniad gwych a gafwyd yn Barometer Myfyrwyr / Myfyrwyr Rhyngwladol a oedd yn cadarnhau profiad cadarnhaol ein myfyrwyr.

“Yn ychwanegol at hyn, rhestrwyd y Brifysgol yn y 10 uchaf yn y DU mewn pedwar categori ar gyfer addysgu a dysgu yn Arolwg Profiad Myfyrwyr Times Higher Education 2016, sy’n dangos y profiad personol a gaiff ein myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

“Rhaid cofio taw arf marchnata ar gyfer What Uni yw hwn ac nid yw’n cael ei gydnabod fel cynghrair swyddogol ar gyfer prifysgolion.”