Aled Roberts AC
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi addo deddfu ar faterion iechyd meddwl os bydd yn ffurfio llywodraeth yn nhymor nesaf y Cynulliad.

Mae’r blaid am weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gleifion â phroblemau iechyd meddwl i gael yr un hawliau i gael diagnosis a thriniaethau â phobol sy’n dioddef o broblemau corfforol.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mae materion iechyd meddwl wedi cael eu hesgeuluso gan lywodraethau yn y gorffennol.

‘Angen osgoi’ achos arall fel Tawel Fan

Dywedodd ei hymgeisydd dros Ogledd Cymru, Aled Roberts, y byddai’r blaid yn ceisio sicrhau bod “achosion ofnadwy fel Tawel Fan” ddim yn digwydd eto.

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar drafferthion Tawel Fan, a oedd yn dangos bod “cam-drin sefydliadol” wedi digwydd yn yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud, yn dilyn y methiannau, bod angen “newid radical” yn y ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn trin iechyd meddwl.

Addewidion eraill

Meddai’r blaid y bydd yn cynyddu gwariant ar iechyd meddwl dros dymor nesaf y Cynulliad, yn sefydlu amseroedd aros i gleifion ac yn sefydlu Tasglu Iechyd Meddwl yn y Llywodraeth.

Mae hefyd am leihau amseroedd aros i blant sy’n aros am apwyntiad gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobol Ifanc a gwella’r cymorth i bobol sydd wedi hunan-niweidio neu wedi ceisio lladd eu hunain.