Nathan Gill (Llun:Alun Chivers)
Mae mudiadau amgylcheddol wedi mynegi pryder ynglŷn â maniffesto UKIP, yn dilyn eu cyhoeddiad y bydden nhw’n torri £73m o gyllid prosiectau newid hinsawdd.

Bu UKIP yn lansio’i pholisïau heddiw ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, gyda’r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrym y gallen nhw ennill llond llaw o seddi ym Mae Caerdydd, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Un o addewidion y blaid yw torri £73m o gyllid sydd ar hyn o bryd yn cael ei wario ar ‘brosiectau newid hinsawdd’.

Ond mae hynny wedi cythruddo World Wildlife Federation Cymru, sy’n dadlau bod anwybyddu problemau amgylcheddol yn anghyfrifol.

‘Dim bai ar bobol’

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru Nathan Gill wedi dweud yn y gorffennol nad yw’n credu bod y ddynol ryw yn gyfrifol am newid hinsawdd a chynhesu byd eang.

Ond yn ôl Jessica McQuade, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru, mae gwir angen gwario ar brosiectau o’r fath os am ddiogelu cymunedau rhag effaith newidiadau i’r amgylchedd.

“Rydym yn pryderu am gynlluniau UKIP Cymru i dorri cyllido sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd,” meddai Jessica McQuade.

“Mae buddsoddi mewn mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru yn hynod o bwysig. Mae’n effeithio bywydau pobl nawr, a bydd yn gwneud yn fwyfwy yn y dyfodol.”

Amddiffyn rhag llifogydd

Ychwanegodd WWF Cymru fod angen y cyllid presennol er mwyn mynd i’r afael â phrosiectau fel isadeiledd amddiffyn rhag llifogydd, a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfle euraidd i Lywodraeth nesaf Cymru i feddwl a gweithredu’n wahanol er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru,” ychwanegodd Jessica McQuade.

“Dyna pam, wrth inni agosáu at yr etholiad, rydym wedi bod yn galw ar y pleidiau i ddangos arweiniad trwy esbonio sut y byddan nhw’n delifro cartrefi cynnes ac ynni effeithlon i bawb, economi gynaliadwy, a moroedd iach a chynhyrchiol.

“Fel elusen, byddwn yn gweithio gyda phob plaid i sicrhau fod y pethau hyn yn digwydd.”