Adam Johnson
Mae un o chwaraewyr Airbus UK wedi ei wahardd am dair gêm ac yn gorfod talu £150 o ddirwy, wedi iddo anfon negeseuon trydar yn dilyn achos llys Adam Johnson.

Cafodd Johnson ei garcharu am chwe blynedd yn ddiweddar ar ôl cael ei ganfod yn euog o weithredoedd rhywiol â merch oedd yn 15 oed ar y pryd.

Yn dilyn y ddedfryd roedd Ryan Wade, sydd yn chwarae i Airbus yn Uwch Gynghrair Cymru, wedi postio negeseuon ar wefan gymdeithasol Twitter ynglŷn â’r achos.

Roedd y negeseuon hynny’n sarhaus ac yn cydymdeimlo ag Adam Johnson, yn ôl adroddiadau gan y BBC.

Fe fydd y chwaraewr canol cae nawr yn cael ei wahardd am dair gêm o 21 Ebrill ymlaen am ei sylwadau, yn dilyn cyfarfod gan banel o swyddogion Uwch Gynghrair Cymru.

Mae hefyd wedi cael dirwy o £150, ac fe fydd yn rhaid iddo dalu £50 o gostau ychwanegol.

Roedd y clwb eisoes wedi cynnal eu proses ddisgyblu eu hunain pan ddaeth y negeseuon i’r fei, a’i wahardd wrth i’r ymchwiliad barhau.