Gwyn Thomas, Llun: Owain Llŷr, Llenyddiaeth Cymru
Mae’r bardd a’r ysgolhaig Gwyn Thomas , a fu’n Fardd Cenedlaethol Cymru, wedi marw yn 79 oed.
Bu’n athro yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor am lawer o flynyddoedd, cyn dod yn bennaeth ar yr adran honno.
Cafodd ei benodi’n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006.
Roedd yn awdur toreithiog, gyda’i gasgliad o gyfrolau barddoniaeth, dramâu a llyfrau ysgolheictod.
Fe oedd yn gyfrifol am gyfieithu’r Mabinogion i’r Saesneg.
‘Colled enfawr’
Mae’r Athro Gerwyn Wiliams, a fu’n cydweithio â Gwyn Thomas ym Mhrifysgol Bangor, wedi disgrifio’r “golled enfawr” fydd ar ei ôl yn dilyn ei farwolaeth.
Yn ôl Gerwyn Wiliams, sy’n Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mangor, Gwyn Thomas oedd un o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan ei fod yn fardd “mor arloesol”.
“Mi wnaeth o ysbrydoli sawl cenhedlaeth o feirdd cyfoes a rhoi gwedd newydd ar farddoniaeth Gymraeg drwy gyfrwng ei farddoniaeth ei hun,” meddai wrth golwg360.
Disgrifiodd ei faes eang o ddiddordebau oedd yn cynnwys y Mabinogi a gwaith y Cynfeirdd fel Aneurin a Thaliesin, gan ddiweddaru eu gwaith nhw i Gymraeg cyfoes a modern.
“Mi oedd yn awyddus i fynd â llenyddiaeth Gymraeg y tu hwnt i ffiniau academaidd, fel ei fod yn datgelu ei chyfoeth i gynulleidfa eang ac amrywiol,” ychwanegodd Gerwyn Wiliams.
Roedd Gwyn Thomas hefyd, meddai, wedi cyfrannu’n helaeth i faes sgrin a ffilm a bathodd y term “Llunyddiaeth”, sef astudio dramâu teledu a’r “ymwneud rhwng y llun a’r geiriau.”
“Mi ddaeth â hygrededd a pharchusrwydd academaidd i’r maes yna, oedd yn beth pwysig iawn yn sgil sefydlu S4C ar ddechrau’r 80au.”
‘Yn greadigol hyd y diwedd un’
Fe gyhoeddodd Gwyn Thomas ei gyfrol olaf, sef Llyfr Gwyn, y llynedd, lle mae’n sôn am yr holl bethau a ddylanwadodd arno, sy’n dangos ei fod “yn gynhyrchiol ac yn greadigol hyd y diwedd un,” yn ôl Gerwyn Wiliams.
“Mae’r gyfrol honno yn nodweddiadol ohono fo, mae’n gyfrol fywiog iawn, yn ffraeth iawn, yn ddeallus iawn ac yn ddynol iawn.”
“Mi oedd Gwyn yn unigolyn cyflawn iawn. Dywedodd fy merch ieuengaf bore ‘ma pan glywodd ei fod wedi marw, ‘Mi oedd yn ddyn da yndoedd’, ac mi oedd yn ddyn da.”
“Mae’n rhywun y byddwn i’n gweld ei golli’n fawr yma’n Ysgol y Gymraeg a’i gyfraniad i Brifysgol Bangor wedi bod yn enfawr.”
‘Ysgolhaig amryddawn’
Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru a’r cyn-Weinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones: “Trist iawn yw’r newyddion am farwolaeth Gwyn Thomas. Mae Cymru wedi colli ysgolhaig amryddawn a dyn annwyl iawn.
“Mi wnaeth gyfraniad aruthrol fel bardd ond hefyd fel person a oedd â’r gallu i ddehongli llenyddiaeth i gynulleidfa gyfoes.
“Yn ŵr o ‘Stiniog, roedd e’n ymfalchio yn ei gefndir, ei fro a’r diwylliant a oedd wedi cael ei fagu ynddo.
“Mi fues i’n ffodus iawn i fod yn un o’i fyfyrwyr ac roedd ei hiwmor yn amlwg iawn yn ei ddarlithio.
“Rydym yn ymestyn ein cydymdeimlad at deulu Gwyn ar adeg trist hwn.”
Hunangofiant
Caiff Gwyn Thomas ei adnabod yn bennaf am ei waith fel bardd ac ysgolhaig, gyda sawl casgliad o gyfrolau barddoniaeth, dramâu a llyfrau ysgolheictod wedi’u cyhoeddi ganddo.
Fe ysgrifennodd ei hunangofiant, Bywyd Bach, yn 2006, fel rhan o Gyfres y Cewri.
Bu’n sâl am rai misoedd ac mae’n gadael gweddw a thri o blant.