Averil Whitfield (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gynyddol bryderus am wraig 57 oed sydd ar goll o’i chartre’ ger Caernarfon.

Does neb wedi gweld Averil Whitfield ers dydd Gwener diwetha’, Ebrill 1.

Mae wedi’r disgrifio fel gwraig wen, o gorffolaeth eiddil gyda gwallt cringoch yn steil bob. Ddydd Gwener, roedd hi’n gwisgo siaced tri-chwarter ddu, a’r cwfl am ei phen.

Mae’r heddlu’n awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani, i gysylltu ar y rhif 101.