Sajid Javid yn cyfarfod â rhai o'r gweithwyr dur ar ei ymweliad â Phort Talbot heddiw (llun: Ben Birchall/PA)
Mae Sajid Javid wedi mynnu nad yw llywodraeth Prydain wedi atal yr Undeb Ewropeaidd rhag gosod tariffau ar ddur rhad o Tsieina, er gwaethaf beirniadaeth gan undebau llafur.

Roedd yr Ysgrifennydd Busnes yn ymweld â Phort Talbot heddiw yn dilyn y newyddion bod perchnogion presennol y gweithfeydd dur yno, Tata, yn bwriadu eu gwerthu.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cael eu beirniadu gan wrthbleidiau a chynghorwyr lleol heddiw am beidio â gwneud mwy i amddiffyn y diwydiant, ond mynnodd Sajid Javid nad oedd hynny’n wir o gwbl.

“Y realiti yw bod Prydain wedi bod yn arwain ymdrechion Ewropeaidd i osod tariffau pan mae tystiolaeth o ddympio,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “sicr” y byddai cwmnïau yn mynegi diddordeb, ond na fyddai’n briodol ceisio dyfalu pwy ar hyn o bryd.

Dim sicrwydd

Mynnodd yr Ysgrifennydd Busnes hefyd nad oedd ei lywodraeth wedi bod yn araf i ymateb i’r argyfwng, yn groes i gyhuddiadau rhai o’r gweithwyr a’r undebau llafur.

“Rydyn ni wedi cydweithio â Tata ers sbel, gweithio’n galed iawn i achub y gweithfeydd yma a sicrhau ein bod ni’n dod o hyd i brynwr newydd allai fynd â hi yn ei blaen a rhoi dyfodol hir dymor iddi,” meddai Sajid Javid.

Gwrthododd roi sicrwydd fodd bynnag y byddai dyfodol pendant gan y ffatri ym Mhort Talbot.

“Mae proses i’w gael a’r cam nesaf rydyn ni i gyd yn cytuno iddi – pawb dw i wedi siarad â nhw heddiw sef Llywodraeth Cymru, yr undebau, Tata eu hunain – pwy bynnag sy’n ei brynu, yw bod yn rhaid i lywodraethau Prydain a Chymru weithio’n agos â nhw er mwyn cynnal dyfodol hir dymor,” ychwanegodd.

“Pan fydd y broses yn cychwyn rwy’n hyderus gyda’n cymorth ni y byddwn ni’n gweld proses sydd yn gweithio i bawb.”