Mae’r heddlu wedi dweud ei fod yn ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol a chelu genedigaeth yn ardal Caerffili.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae swyddogion yn ymchwilio i gyfeiriad ym mhentref Pen-y-Bryn, ger y dref ac mae dyn lleol yn eu helpu.
“Rydym yn cynnal ymchwiliad mewn cyfeiriad ym Mhen-y-Bryn, Caerffili, yn dilyn adroddiadau o droseddau rhyw hanesyddol a chelu genedigaeth yn y cyfeiriad,” meddai’r Prif Arolygydd Ditectif, Nicky Brain.
“Hoffwn sicrhau trigolion bod hwn yn achos unigol a dydyn ddim am siarad â neb arall yn ystod yr ymchwiliad hwn.”
Dywedodd yr heddlu y byddai’n “amhriodol” i wneud sylw pellach ar yr achos ar hyn o bryd.