Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Caerdydd (Llun: Wicipedia)
Mae heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth wedi i £200 o arian casgliad gael ei ddyn o eglwys yng nghanol y ddinas.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn Windsor Place rywbryd rhwng nos Fawrth a bore Mercher yr wythnos hon.

Fe achoswyd gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod i’r eglwys hefyd.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad, i’w ffonio ar y rhif 101.