Mae Heddlu De Cymru yn dweud ei fod yn pryderu dros les dyn 18 oed ar ôl iddo fynd ar goll ers 5 o’r gloch brynhawn ddoe.

Mae Omair Abbas yn dod o Gaerdydd ac yn chwe throedfedd 2 modfedd o daldra â gwallt tywyll byr a barf.

Cafodd ei weld diwethaf yn gwisgo crys du, trowsus du a siaced ddu.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600112778.