Sajid Javid
Bydd Ysgrifennydd Busnes, llywodraeth San Steffan yn ymweld â Phort Talbot heddiw yn wyneb honiadau nad yw wedi gwneud digon i geisio sicrhau’r diwydiant dur yno.

Torrodd Sajid Javid daith fusnes yn Awstraliad yn fyr i ddod yn ôl i Brydain yn dilyn penderfyniad cwmni dur Tata i werthu’r busnes yn y DU, gan gynnwys ei safle dur mwyaf ym Mhort Talbot.

Mae galwadau arno i ymddiswyddo heddiw, ar ôl i lefarydd ar ei ran gadarnhau bod yr Ysgrifennydd Busnes wedi mynd a’i ferch ar y daith.

Er hyn, mae Sajid Javid yn mynnu mai fe dalodd am y daith i’w ferch ac nad oedd wedi mynd i boced y trethdalwr.

Mae’r undebau llafur a gwleidyddion y blaid Lafur wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o beidio â gwneud digon i helpu diwydiant dur Prydain, ac o wrthod ystyried yr opsiwn o wladoli’r diwydiant.

Yn dilyn yr helynt, mae AS Aberafan Stephen Kinnock, a fu’n Mumbai dros y dyddiau diwethaf i geisio darbwyllo Tata i gadw ei fusnes ym Mhort Talbot, wedi galw ar Sajid Javid i ymddiswyddo.

‘Chwerthinllyd’

Mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb i ddweud bod yr awgrym hwn yn “chwerthinllyd” a’u bod yn gwneud ‘popeth yn eu gallu’ i sicrhau dyfodol i’r diwydiant dur.

Mae 4,000 o weithwyr yn gweithio i’r safle ym Mhort Talbot, gyda miloedd o bobol eraill ledled Cymru a gweddill Prydain yn dibynnu ar y diwydiant.

Mae un felin drafod, IPPR, wedi dweud y gallai 40,000 o bobol golli eu swyddi os bydd y diwydiant dur yma yn mynd i’r wal.