Mae ysbyty yng Nghaerdydd yn un o 21 o ysbytai yn y DU a fydd yn cynnig profion genetig ar diwmorau plant â chanser.
Mae gwyddonwyr wedi dweud bod y profion yn gam “cyffrous” tuag at gynnig triniaeth wedi’i phersonoli i bobl ifanc â chanser – ac mae Ysbyty Plant Cymru yn un o’r ysbytai ar draws y DU fydd yn cynnig y profion yn y lle cyntaf.
Y datblygiad yw’r cam cyntaf o raglen ehangach sy’n ceisio darparu profion ar gyfer pob plentyn sydd â thiwmorau soled yn y DU.
‘Haeddu’r triniaethau modern gorau’
Dywedodd y Sefydliad Ymchwil Canser (ICR) mai’r bwriad yw dod o hyd i ffordd i bersonoli’r driniaeth i bob claf.
I ddechrau, 400 o blant o dan 14 oed fydd yn derbyn y profion.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Louis Chesler, o’r Sefydliad Ymchwil Canser: “Mae plant yn haeddu’r triniaethau modern gorau i fynd i’r afael â chanser, ond mae hi wedi cymryd yn rhy hir i bersonoli eu triniaeth.
“Trwy hyn a mentrau eraill tebyg iddo, fy ngobaith yw y gallwn helpu i fwrw ymlaen â’r defnydd o gyffuriau sy’n targedu tiwmorau mewn plant gan wneud achos clir iawn y dylent fod ar gael yn fwy eang, fel y maen nhw ar gyfer oedolion.”