Gwaith dur Port Talbot
Yn dilyn cyfarfod brys â rhai o weinidogion ei gabinet, mae David Cameron wedi dweud bod y Llywodraeth yn “gwneud popeth yn ei gallu” i ddatrys yr argyfwng dur.

Ond, pwysleisiodd nad gwladoli yw’r  ateb i’r sefyllfa ym Mhort Talbot sydd o “bryder mawr”, meddai.

Ychwanegodd y Prif Weinidog nad oes “sicrwydd” y bydd cynlluniau i adfer y diwydiant yn y DU yn llwyddo.

Yn wyneb beirniadaeth am y ffordd y mae ei Lywodraeth wedi ymateb i’r argyfwng, mynnodd David Cameron, fod ymyrraeth y llywodraeth wedi atal y safle dur ym Mhort Talbot rhag cau yn gyfan gwbl.

“Mae’r sefyllfa ym Mhort Talbot yn codi pryder mawr. Dw i’n gwybod mor bwysig yw’r swyddi hyn,” meddai.

“Mae’r swyddi yn hanfodol i deuluoedd gweithwyr, yn hanfodol i’r cymunedau a bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i weithio gyda’r cwmni a cheisio sicrhau dyfodol y diwydiant dur ym Mhort Talbot a ledled y wlad.”

‘Cofio am safleoedd dur eraill’   

Mae galwadau newydd heddiw i gofio am safleoedd dur eraill yng Nghymru, gyda gweithwyr yn Llanwern, Trostre a Shotton oll yn wynebu’r bygythiad o golli eu swyddi.

Er bod sôn am geisio dod o hyd i brynwr i’r safle ym Mhort Talbot, does dim sôn wedi bod am ddyfodol y safleoedd eraill, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lleisio pryderon dros safle dur Shotton, sy’n cyflogi 800 o weithwyr.

Dywedodd yr AC dros ranbarth Gogledd Cymru, Mark Isherwood, fod y swyddi dur yn y dref yn Sir y Fflint yn “hanfodol” i Ogledd Cymru.

Cefnogaeth yn ‘hanfodol’

“Bydd cefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn hanfodol i sicrhau dyfodol dur yng Ngogledd Cymru, ac mae’r gweithwyr yn Shotton yn haeddu dim llai na gweld pob opsiwn yn cael ystyriaeth,” meddai.

Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi galw am ystyried gwladoli’r diwydiant, hyd nes o leiaf daw prynwr i’r busnes, ond mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi dweud nad yw hyn yn “ateb cynaliadwy”.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod angen gweld gweithredu ar ardrethi busnes i’r diwydiant yng Nghymru, sydd wedi cael beirniadaeth yn y gorffennol am fod yn rhy uchel.

Bydd Aelodau Cynulliad yn ail-ymgynnull am gyfarfod llawn dydd Llun i drafod y mater ac ystyried y camau nesaf.