Mae bragdy o Gymru wedi cipio medal efydd yng nghategori cwrw casgen mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal gan Gymdeithas y Bragwyr Annibynnol (SIBA).

Enillodd Bragdy’r Waen o ganolbarth Cymru’r wobr am ei gwrw Lemon Drizzle.

Cwrw Summer Summit gan fragdy Loch Lomond yn yr Alban aeth â’r fedal aur tra bod yr Harbour Brewing Company o Gernyw wedi ennill y fedal efydd am ei gwrw golau.

Dywedodd cadeirydd SIBA, Guy Sheppard: “Efallai fod Lloegr wedi dod i’r brig yn y Chwe Gwlad, ond bragdai’r Alban a Chymru sydd wedi mynd a’n prif wobrau ni.”