Parot llwyd Affricanaidd tebyg i'r un gafodd ei dwyn yn y lladrad (llun:DickDaniels/CC3.0)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ladron ddwyn gwerth £35,000 o nwyddau o ganolfan ddiwydiannol ger Caerffili.
Cafodd y nwyddau bron i gyd eu dwyn o siop Silver Star Pets, gan gynnwys parot llwyd Affricanaidd, gwerth £900.
Hefyd dygwyd tenynnau cŵn, cotiau cŵn, tanciau pysgod, bwydydd anifeiliaid anwes ac offer trin cotiau cŵn.
Digwyddodd y lladrad dros nos rhwng 15 a 16 Mawrth yng Nghanolfan Fenter Britannia ym mhentref Pengam.
Roedd lladron wedi llwyddo i dorri i mewn i unedau eraill ar y safle, lle cafodd drysau eu difrodi ond doedd dim wedi’i ddwyn.
Roedd arwydd tacsi, fodd bynnag, wedi cael ei ddwyn o un o’r cerbydau oedd wedi parcio ar y safle.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu 1600091057.