Darren Millar yw llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig barhau i roi sylw blaenllaw i Iechyd yng nghynhadledd y blaid yn Llangollen dros y penwythnos, gydag addewid i ‘fynd i ryfel’ yn erbyn pedwar o’r afiechydon gwaethaf am ladd yng Nghymru.

Fe fydd llefarydd Iechyd y blaid Darren Millar yn amlinellu cynlluniau i daclo canser, diabetes, clefyd y galon a strôc ym maniffesto’r Torïaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Mae disgwyl i’r blaid hefyd wneud cyhoeddiadau ar wasanaethau dementia ac Alzheimer’s, a gofal cymdeithasol, fel rhan o’u hymgais i wneud Iechyd yn un o brif bynciau’r etholiad.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies hefyd yn gwneud addewidion ar yr Economi ac Addysg, yn ogystal â dweud y byddai’r Ceidwadwyr yn treblu gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos.

Canolbwyntio ar iechyd

Fel rhan o’u haddewidion ar Iechyd fe fyddai’r Ceidwadwyr yn sefydlu Cronfa Gleifion Canser gwerth £100m, yn ogystal â gosod targed o 28 diwrnod rhwng ymgynghoriad a diagnosis triniaeth erbyn 2020.

Byddai uned strôc hefyd yn cael ei sefydlu ym mhob ysbyty cyffredinol yng Nghymru, ac fe fyddai diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn adeiladau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Mae’r blaid hefyd am weld hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod mwy o arian ar gael i ymchwilio i driniaethau.

“Mae’n rhaid i ni daclo’r afiechydon hyn sydd yn lladd y fwyaf o bobol yn ein gwlad. Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i ryfel yn erbyn y lladdwyr creulon yma,” meddai Darren Millar.

Pwerdy i’r gogledd

Mae disgwyl i arweinydd y blaid Andrew RT Davies hefyd roi sylw blaenllaw i Iechyd yn ei araith yntau, gan ymosod ar record y llywodraeth Lafur presennol.

Fe fydd yn pwysleisio pum addewid sydd gan ei blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, gan gynnwys amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd, creu mwy o swyddi, gwella addysg wrth newid y ffordd mae athrawon yn cael eu hyfforddi, rhoi sicrwydd ariannol i henoed mewn gofal, a threblu gofal plant am ddim.

Bydd Andrew RT Davies hefyd yn cyhoeddi fod ei blaid eisiau sefydlu ‘pwerdy’ i ogledd Cymru er mwyn datganoli mwy o bwerau yno a chryfhau economi’r ardal.

Mae’n mynnu hefyd mai dim ond colli un sedd fyddai’n rhaid i Lafur ei wneud er mwyn colli pŵer yng Nghymru – er y byddai hynny dal yn golygu mai nhw fyddai’r blaid fwyaf yn y Cynulliad.