Wrth ystyried fersiwn derfynol o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod y defnydd o e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ysgolion, bwytai a thrafnidiaeth gyhoeddus.

“Bydd y ffordd rydym yn ymdrin ag e-sigaréts yn gwneud yn siŵr na fydd yn bosibl eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus caeedig lle mae plant a phobl ifanc yn bresennol,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

“Bydd hynny’n lleihau’r risg o wneud ysmygu yn beth normal eto i genhedlaeth sydd wedi tyfu i fyny mewn amgylchedd sydd, i raddau helaeth, yn ddi-fwg.”

 ‘Mwy o niwed nag o les’

 

Ond, mae’r cynnig wedi denu ymateb chwyrn, ac fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am bleidlais derfynol i wrthwynebu’r cynlluniau. Yn ôl y blaid fe allai’r gwaharddiad “wneud mwy o niwed nag o les,” a bod arbenigwyr ac elusennau fel Cancer Research UK yn eu cefnogi.

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, mae 4,000 o bobl yn cefnogi eu hymgyrch yn erbyn y gwaharddiad.

“Byddech chi’n meddwl y byddai Bil Iechyd y Cyhoedd wedi’i ddylunio i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn gwirionedd, gallai wneud y gwrthwyneb wrth i bobl beidio â chael y gefnogaeth i wneud y newid cadarnhaol o dybaco i e-sigarennau.”

 ‘Ystyried y gwelliannau’

 

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) hefyd yn cynnwys cynigion i drwyddedu tatŵio a thyllu’r corff. Disgwylir i’r gwelliannau gael eu hystyried heddiw.

“Nod y Bil yw mynd i’r afael â nifer o bryderon diweddar o ran iechyd y cyhoedd. Ar yr un pryd, bydd yn helpu i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru,” ychwanegodd y Gweinidog Iechyd.