Delhi Newydd yn India
Mae merch 15 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Delhi Newydd ar ôl cael ei threisio a’i rhoi ar dân yng nghartref ei theulu, meddai’r heddlu yn India.

Yn ôl cwnstabl yr heddlu Yadram Singh, mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio a cheisio llosgi’r ferch ym mhentref Tigri, ar gyrion Delhi Newydd.

Dywedodd bod rhieni’r ferch wedi ei chlywed yn sgrechian, a’i darganfod gyda llosgiadau difrifol ar deras eu cartref fore dydd Llun.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o achosion o dreisio yn erbyn merched a phlant yn India.