Links Air (Llun: Links Air)
Mae’n debyg bod nifer o gwsmeriaid Links Air heb gael eu digolledu ar ôl prynu tocynnau hedfan, er i’r cwmni roi stop ar y gwasanaeth hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Roedd gan y cwmni gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth, ac roedden nhw i fod i dderbyn £3.94m  o arian cyhoeddus at y costau rhwng 2014- 2o18. Nid yw’r Llywodraeth yn medru dweud faint o sybsidi sydd wedi ei dalu i Links Air ar hyn o bryd.

Daeth y gwasanaeth i ben ym mis Ionawr, ac mae Links Air bellach wedi cau ei linellau ffôn a’i wefan, a’r cwsmeriaid yn y tywyllwch o ran pryd neu os byddan nhw’n cael eu harian yn ôl.

Yn ôl un cwsmer, fe gafodd e-bost gan y cwmni sawl wythnos yn ôl yn dweud y bydd cwsmeriaid yn cael eu digolledu. Ond does dim amserlen wedi ei roi am hyn a dydy’r cwmni heb gysylltu â hi ymhellach.

Fe dalodd Dr. Judith Fathallah rhwng £50 a £60 am ei thocyn. Er i Air Links addo rhoi’r arian yn ôl iddi, mae’n dal i aros.

“Anfonon nhw e-bost pan wnaethon nhw gau yn dweud y byddan nhw’n ein had-dalu os byddwn yn rhoi ein cyfeiriad post atyn nhw, ac fe wnes i hynny – nd ar ôl hynny doedd dim cyfathrebu pellach,” meddai Judith Fathallah wrth golwg360.

“Mae eu gwefan bellach wedi mynd, dw i wedi trio eu he-bostio ond does dim ymateb a cheisiais ei ffonio ond roedd hwnnw wedi cau.”

Yn ôl Judith Fathallah mae cannoedd o gwsmeriaid yn yr un sefyllfa â hi ac mae am weld mwy yn cael ei wneud i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

“Does neb wedi darparu amserlen [ar gyfer rhoi’r arian yn ôl]. Pan maen nhw’n sôn am ‘ateb’, beth maen nhw’n golygu? Mae arnyn nhw llawer o arian i lawer o bobol, a dim ond un ffordd sydd o wneud yn iawn am hynny.”

Llywodraeth yn ymyrryd

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymyrryd, gyda’r Adran Drafnidiaeth yn gweithio gyda’r Awdurdod Hedfan Sifil a Links Air i geisio cael “ateb” i deithwyr.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, mewn llythyr at Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones, ei bod hefyd yn “ystyried mesurau ychwanegol” pe bai’r sefyllfa’n parhau.

“Er mai mater i Links Air yw hwn, rydym yn ymwybodol bod rhai teithwyr oedd wedi trefnu hedfan gyda’r cwmni cyn iddo benderfynu peidio â darparu’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn Cymru ym mis Ionawr (2016), heb rybudd, yn cael trafferth i gysylltu â Links Air a chael ad-daliad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac rydym yn gweithio gyda’r Awdurdod Hedfan Sifil a Links Air i geisio cael ateb i deithwyr.

“Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth hefyd yn ystyried pa fesurau ychwanegol gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud os nad yw’r sefyllfa’n gwella gan nad yw am weld teithwyr yn cael eu heffeithio’n negyddol.”