I ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed, bydd un o elusennau canser mwyaf Cymru yn ariannu dau brosiect newydd gwerth £1.6m.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi penderfynu rhoi’r arian er mwyn cynnal prosiect ymchwil newydd, y cyntaf o’i fath yn y byd, ac edrych ar ffyrdd newydd o drin canser.

Bydd y prosiect ymchwil yn rhoi £800,000 i geisio darganfod pam nad yw Cymru’n gwneud cystal â gwledydd eraill y DU o ran rhoi diagnosis cynnar o achosion o ganser.

Ar hyn o bryd, mae mwy yn marw yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain gan fod y clefyd yn aml yn cael ei ddarganfod yn rhy hwyr.

Yr Athro Richard Neal, o Brifysgol Bangor, fydd yn arwain y gwaith, gan ganolbwyntio ar epidemioleg a chyfraddau goroesi, ymwybyddiaeth ac agweddau’r cyhoedd, ac agweddau, ymddygiad a systemau ym maes gofal cynradd.

Y nod yw cael meddygon teulu i weithio’n gyflymach os oes arwyddion o ganser ar glaf, er mwyn cyfeirio achosion posib o ganser yn gynt.

Trin canser y coluddyn

Bydd yr ail brosiect hefyd yn derbyn £800,000 i edrych ar driniaethau imiwnotherapi ar gyfer taclo canser y coluddyn.

Y syniad y tu ôl i’r triniaethau hyn yw ceisio gwella gallu system imiwnedd y claf er mwyn cael gwared â’r canser yn y corff.

Canser y coluddyn sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau yng Nghymru, gyda 1,000 o bobol yn marw ohono bob blwyddyn.

Yr Athro Andrew Godkin â’i dîm yn Ysbyty Prifysgol Cymru fydd yn arwain y gwaith i Ymchwil Canser Cymru, drwy geisio darganfod a datblygu ffurfiau mwy effeithiol o ddefnyddio triniaethau imiwnotherapi i drin canser y coluddyn.

Dywedodd Liz Andrews, cyfarwyddwr yr elusen, y byddai pobol yn dechrau gweld “yr effaith gall yr arian ei gael yn y frwydr yn erbyn canser.”