Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi’i ailethol am dymor arall, yn benderfynol o ddenu mwy o bobol ifanc i’r mudiad, meddai.
Cafodd Joseff Gnagbo ei ethol yn gadeirydd am ail dymor yn ystod cyfarfod yn Bow Street dros y penwythnos.
Dywed yr ymgyrchydd iaith, sy’n byw yn Nhredelerch ger Caerdydd, ei fod yn falch o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud ers iddo ddod yn gadeirydd flwyddyn yn ôl, ond ei fod yn teimlo bod angen parhau i frwydro dros gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Symudodd Joseff Gnagbo i Gymru yn 2018, ar ôl ffoi o’r Côte d’Ivoire yng ngorllewin Affrica, gan ddysgu Cymraeg.
Bu’n swyddog rhyngwladol i Gymdeithas yr Iaith cyn dod yn gadeirydd, a dywed ei fod yn gobeithio y bydd ei ail dymor yn y rôl yn “anfon neges i bobol o gefndiroedd amrywiol i ymuno â’r frwydr dros yr iaith Gymraeg”.
“Mae llawer o waith dal i’w wneud; er fy mod i’n falch o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn barod dros y tymor cyntaf, dw i’n teimlo bod angen parhau i ymladd dros hawliau’r Gymraeg a sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael eu hamddiffyn,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n benderfynol o weld y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu.
Ychwanega fod cael ei ailethol yn “anrhydedd mawr”.
“Dw i’n teimlo’n rhan o deulu Cymdeithas; mae’r ymdeimlad yn gryfach nawr, ac mae’n fy ysbrydoli i barhau â’r gwaith allweddol rydyn ni wedi’i ddechrau’n barod.
“Mae’n rhoi hwb i fi fod yn rhan o’r frwydr hon am gyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder ieithyddol hefyd.”
‘Parhau i bwysleisio hawliau tai’
Addysg Gymraeg a’r Ddeddf Eiddo oedd y ddwy ymgyrch roedd Joseff Gnagbo yn awyddus i’w blaenoriaethu wrth ddod i’r llyw y llynedd, a dywed ei fod yn arbennig o falch o ralïau ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog a Machynlleth eleni.
“Hefyd, dw i’n falch o’n hymdrechion i godi’r Ddeddf Eiddo ar yr agenda gwleidyddol, dw i efo teimlad bod ein galwadau’n cael eu clywed yn ehangach, ac rydyn ni’n gweld y pwysau’n cynyddu i weithredu ar faterion sy’n effeithio ar ein cymunedau Cymraeg eu hiaith,” meddai Joseff Gnagbo.
“Dw i’n bwriadu parhau i bwysleisio hawliau tai drwy gefnogi Deddf Eiddo a pharhau i weithio i sicrhau bod y Bil Addysg yn rhoi hawl i bob plentyn yng Nghymru i siarad Cymraeg yn rhugl, yn hyderus. Maen nhw’n faterion hanfodol.
“Hefyd, rydyn ni’n benderfynol o ddenu mwy o bobol ifanc i fod yn rhan o’n mudiad.
“A sut rydyn ni’n gwneud hynny? Rydyn ni’n bwriadu sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed gan genedlaethau’r dyfodol.
“Dw i’n falch iawn, dw i’n hapus iawn, a dw i’n gobeithio gweld mwy o bobol ifanc yn ymuno.”