Cheryl James (llun: PA)
Mae’r ail gwest i farwolaeth Cheryl James wedi clywed fod milwyr eraill ym marics Deepcut ar y pryd wedi cael gorchymyn i beidio â ffonio adref wedi i gorff y ferch gael ei ganfod.

Cafwyd hyd i gorff y milwr 18 oed o Langollen gyda chlwyf bwled ym mis Tachwedd 1995. Mae’n un o bedwar milwr i farw yn y gwersyll hyfforddi yn Surrey o fewn cyfnod o saith mlynedd.

Wrth roi tystiolaeth heddiw fe ddywedodd Lisa Slattery, oedd yn rhannu ‘stafell â hi, ei bod wedi chwerthin pan glywodd y gwn gyntaf ar ôl meddwl bod Cheryl James wedi tanio’r gwn ar ddamwain.

Esboniodd fod siarsiant wedi cael galwad ffôn, a’i fod wedi gorchymyn grŵp o filwyr gwrywaidd i’w ddilyn, gan ddweud wrth y merched i aros ar ôl.

Yna fe ddywedodd fod rhywun wedi dweud wrthi “peidiwch â ffonio adref na dim felly. Ewch i’r stafell yma a gallwn siarad am beth sydd wedi digwydd”.

‘Rhoi gwybod yn gyntaf’

Yn Llys y Crwner Woking heddiw, fe ddywedodd Nicholas Moss QC, cynrychiolydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fod y cyfarwyddyd hwnnw mwya’ tebyg wedi cael ei roi nes bod rhieni Cheryl James wedi cael clywed am ei marwolaeth.

“Dw i ddim yn siŵr,” meddai Lisa Slattery.

“Dw i’n cofio bod yn eitha’ trist am na allwn ddweud wrth fy rhieni.”

‘Wedi ei synnu’

Un arall roddodd dystiolaeth heddiw oedd milwr arall fu yn Deepcut yn ystod yr un cyfnod â hi, Glen Rankin.

Fe esboniodd fod Cheryl James wedi gofyn am gael ei rhoi mewn cell am ymddygiad gwael er mwyn osgoi bod ar ddyletswydd goruchwylio’r diwrnod y bu farw.

Ychwanegodd bod Cheryl James yn ymddangos “wedi meddwi” ac yn “drist” pan siaradodd y ddau ar y noson cyn ei marwolaeth.

“Doedd Cheryl ddim eisiau bod ar ddyletswydd goruchwylio’r bore wedyn,” meddai, gan ddweud ei fod “wedi ei synnu” pan welodd hi ar ddyletswydd y diwrnod canlynol ac yn ymddangos yn “eithaf hapus”.

Dyfodol yn y fyddin

Gofynnwyd i Glen Rankin a fyddai Cheryl James yn siarad am ei dyfodol yn y fyddin.

“Weithiau, ro’n i’n cael y syniad nad oedd hi’n ei hoffi. Roedd y lle ei hunan yn ddigon i droi chi i ffwrdd o’r fyddin a sut oedden nhw’n eich trin chi,” atebodd.

“Un diwrnod byddech chi’n penderfynu eich bod wedi cael digon, dro arall oeddech chi’n meddwl fod e’n iawn.”

Ystyried ecsbloetio rhywiol

Roedd disgwyl i’r Prif Dditectif Arolygydd Brian Boxall, a arweiniodd yr ymchwiliad gan Heddlu Surrey yn 2002, hefyd roi tystiolaeth o flaen y cwest.

Ond fe ddywedodd y crwner Brian Barker QC “nad oedd hi’n ofynnol iddo gyflwyno tystiolaeth bellach”.

Mae’r cwest y tro hwn yn ystyried tystiolaeth a allai awgrymu ei bod wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion ychydig cyn ei marwolaeth.

Mae’r cwest wedi ei ohirio tan ddydd Mercher.