Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Helen Osborn o Ddinbych sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres Am Dro ar S4C.

Mae Helen Osborn yn dysgu Cymraeg efo Popeth Cymraeg. Dechreuodd ddysgu yn y 1990au ond wedyn symudodd i fyw i Ogledd Iwerddon am ugain mlynedd – “ac anghofiais i bob gair!” meddai. Roedd wedi ail-ddechrau dysgu’r iaith yn 2022 efo Popeth Cymraeg.


Helen, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Am Dro ydy fy hoff raglen ar S4C. Mae pob pennod yn cynnwys pedwar o gyfranwyr sy’n cystadlu am fil o bunnau trwy arwain taith gerdded fer – efo picnic fel arfer – yn eu milltir sgwâr, yn ymweld â llefydd o ddiddordeb. Wedyn maen nhw’n cael eu sgorio allan o ddeg gan y cystadleuwyr eraill.

Pam rwyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Dw i’n mwynhau dysgu mwy am lefydd adnabyddus a chael fy nghyflwyno i lefydd newydd. Fel arfer mae golygfeydd gwych a hanes diddorol. Mae ‘na hiwmor hefyd ac weithiau pleidleisio tactegol. Yn ddiweddar mae pennod Selebs ar ddechrau’r gyfres sy’n hynod o ddiddorol.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae Aled Samuel yn ysgrifennu’r sgript ac yn trosleisio’r rhaglen. Mae ei lais yn hawdd i’w ddeall ac mae gynno fo hiwmor sych.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Weithiau mae dysgwyr neu bobl sydd wedi dysgu Cymraeg yn cymryd rhan yn y rhaglen.  Yn fy  marn i mae hwn yn annog dysgwyr eraill ac efallai yn magu eu hyder nhw. Ar wefan S4C mae ‘na fanylion o bob taith a disgrifiad o’r llefydd, sydd o gymorth mawr i ddysgwyr.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’r cyfranwyr yn dod o bob cwr o Gymru felly mae amrywiaeth o leisiau ac acenion  i’w clywed, sy’n helpu dysgwyr hefyd.

 

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Baswn. Does dim rhaid mwynhau cerdded i fwynhau gwylio Am Dro. Mae’r rhaglen yn cyflwyno llefydd a phobl ddiddorol.

Mae Am Dro ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.