Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law dros rannau o Gymru ar gyfer y penwythnos.
Mae’r rhybudd yn ei le i drigolion Gwynedd, Powys, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a Cheredigion.
Ac mae’n debyg y bydd newid o’r tywydd rhewllyd i dywydd cynhesach ond gwlypach a mwy gwyntog dros Gymru gyfan.
Fe fydd y tymheredd yn cynhesu tipyn ar ôl iddi rewi dros yr wythnos, ond fe fydd glaw trwm a gwyntoedd cryf yn gwneud eu ffordd ledled y wlad.
80mm o law
Bydd y rhybudd swyddogol yn ei le rhwng canol dydd Sadwrn a chanol nos ddydd Sul.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i hyd at 80mm o law ddisgyn ar dir uchel yng ngogledd Cymru dros y diwrnodau nesaf.