Mae swyddogion yr heddlu sy’n chwilio am fam babi newydd-anedig a gafodd ei ganfod yn farw yng Nghasnewydd, wedi rhyddhau llun o fag tebyg i’r un y cafodd y plentyn ei ddarganfod ynddo.

Cafodd y babi ei ddarganfod ger ystâd ddiwydiannol yng Nghasnewydd ar 29 Ionawr. Mae Heddlu Gwent hefyd wedi cadarnhau mai bachgen oedd y babi.

Roedd canlyniadau’r post mortem yn dangos fod y babi wedi cael ei eni ar gyfnod llawn y beichiogrwydd.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad fod y babi wedi cael ei lapio mewn tywel gwyn gyda’r geiriau ‘St Annes’ arno cyn cael ei roi mewn bag llaw lledr du.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod eisiau siarad gyda’r fam ar “amser anhygoel o anodd” iddi a’u bod eisiau gwneud yn siŵr ei bod hi’n cael cymorth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd yn adnabod y bag neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu contact@gwent.pnn.police.uk.