Mae ymgeisydd seneddol y Blaid Werdd yng Ngheredigion Preseli yn dweud bod Plaid Cymru’n “cynrychioli cenedlaetholdeb sydd yn gallu bod yn eithaf cas ar adegau”.
Daw sylwadau Tomos Barlow, sy’n 23 oed ac yn hanu o Ynys Môn, ar ôl i’r Blaid Werdd lansio’u maniffesto i Gymru.
Yn eu maniffesto, mae’r Blaid Werdd yn cyflwyno cynnig ar gyfer treth gyfoeth o 1% ar asedau dros £10m, a 2% ar asedau gwerth £1bn neu fwy.
Maen nhw’n dweud y bydd yr arian sydd yn cael ei godi drwy’r dreth yn mynd yn syth i mewn i wasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Blaid Werdd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru fel polisi ers 2020.
Yn rhan o’u maniffesto, maen nhw eisiau i’r Senedd gael yr un pwerau â Senedd yr Alban fel cam cyntaf ar y daith tuag at adael y Deyrnas Unedig.
Pam ddim Plaid Cymru?
Tomos Barlow, 23, sy’n siarad Cymraeg o Ynys Môn ac yn sefyll dros y Blaid Werdd yng Ngheredigion Preseli.
Bu’n astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pam, felly, nad oedd yn dymuno ymuno â Phlaid Cymru?
“I fi, mae Plaid Cymru yn cynrychioli cenedlaetholdeb sydd yn gallu bod yn eithaf cas ar adegau,” meddai wrth golwg360.
“Hefyd, maen nhw’n ymyrryd lot â phethau sy’n ymwneud â ffermio, a dw i ddim yn hoffi’r ffordd maen nhw’n gweld yr economi.
“I fi, dw i’n meddwl rydan ni angen mwy o wleidyddiaeth progressive yn y ffordd rydym yn edrych ar annibyniaeth.
“Dw i’n meddwl dydi Plaid Cymru ddim wedi gallu cael heibio’r adegau o genedlaetholdeb tywyll.”
Eisiau mynd â phobol ar “siwrne”
Ymgeisydd arall o’r Blaid Werdd yn y lansiad oedd Lynden Mack, siaradwr Cymraeg sy’n sefyll ym Mro Morgannwg.
Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod eisiau sefyll er mwyn “dechrau sgwrs” am faterion fel newid hinsawdd a’r argyfwng natur yn ei ardal.
“Y broblem yw, mewn moment sydd mor bwysig fel nawr, mae pobol wedi gwthio’r agenda i’r ochr,” meddai.
Er ei fod yn cyfaddef ei fod yn “sialens” i ddod â phobol ar y siwrne, dywed ei fod yn obeithiol, o siarad â gwrthwynebwyr, fod yna ffordd i berswadio pobol.
“Dw i’n mynd i’r hustings efo NFU Cymru heno, a bydda i’n dweud fy mod ar y siwrne efo chi [y ffermwyr], achos dw i ddim yn siŵr yn unigol sut mae newidiadau yn gallu digwydd,” meddai.
“Felly, dw i eisiau sgwrs ’nôl ac ymlaen efo nhw heno i siarad am y peth.
“Dw i’n dudalen wag sydd yn barod i ddysgu.”