Mae Prifysgol Bangor am gyflwyno cymhwyster addysgu arloesol newydd er mwyn mynd i’r afael â phrinder athrawon yng Nghymru i gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac sy’n niwroamrywiol.

Mae’r cwrs ôl-radd hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, newydd gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a bydd yn cael ei gynnig o fis Medi.

Mae wedi’i gynllunio i gefnogi’r rheiny sy’n newydd i’r gweithlu addysg, a chymorthyddion sydd â phrofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n dymuno dilyn gyrfa fel athrawon.

Dywed Cyngor y Gweithlu Addysg fod “y pwyllgor yn canmol y bartneriaeth am gyd-lunio’r rhaglen ar y cyd â’r ysgolion partner arweiniol”.

‘Cam pwysig i sicrhau cymwysterau priodol’

Yn ôl Hazel Jane Wordsworth, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, mae’r achrediad yn “gam pwysig i sicrhau gweithlu addysg sydd â’r cymwysterau priodol i gefnogi anghenion pob dysgwr”.

“Yn y rhanbarth yma’n unig, mae gennym naw ysgol arbennig a 13,750 o ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) dynodedig,” meddai.

“Yn y sector addysg arbennig a’r sector ysgolion prif ffrwd, mae cydnabyddiaeth y gellid gwneud mwy i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth yn y ffordd orau bosib.

“O ganlyniad, mae galw gwirioneddol am ragor o athrawon ag arbenigedd yn y maes hwn mewn lleoliadau arbennig ac yn y prif ffrwd.”

Diffyg dealltwriaeth drylwyr

Ar hyn o bryd, mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn y llwybr prif ffrwd ôl-radd neu israddedig, ac yna’n canfod eu hunain yn cael eu recriwtio i weithio mewn ysgolion addysg arbennig neu gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol oherwydd y galw am athrawon.

Mae hyn yn golygu bod athrawon sydd newydd gymhwyso yn aml yn ailhyfforddi yn y swydd heb y ddealltwriaeth drylwyr honno o’r sector addysg arbennig sy’n dod o ddysgu’r theori.

“Beth wnaethon ni gyda’r cwrs newydd hwn oedd cyd-ddylunio rhaglen addysg i athrawon sy’n cynnwys yr elfen anghenion dysgu ychwanegol, gan gydweithio ag ysgolion arweiniol sydd ag arbenigedd yn y maes,” meddai Hazel Jane Wordsworth.

“Felly, fel rhan o’r rhaglen hyfforddi ôl-radd benodol hon sy’n arbenigo mewn anghenion dysgu ychwanegol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau mewn ysgolion arbennig i ddeall y berthynas rhwng theori ac ymarfer.

“Mae hyn yn golygu, p’un a yw’r unigolyn hwnnw neu honno’n mynd ymlaen i addysgu mewn ysgol arbennig neu mewn ysgol brif ffrwd sydd â darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, bydd yn fwy gwybodus am anghenion dysgu ychwanegol ac yn y pen draw, yn cefnogi disgyblion yn well.”

‘Dewis ardderchog’

Dywed yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor, fod “gan Brifysgol Bangor enw da yn rhyngwladol am ei chanolfan ragoriaeth sy’n gwneud ymchwil i ddyslecsia ac anghenion dysgu ychwanegol ac mae gennym ddarpariaeth ranbarthol gref o fewn y maes, gan gynnwys ysgolion rhagorol ag arbenigedd a gydnabyddir yn genedlaethol”.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cyflwyno’r rhaglen hon i fynd i’r afael â rhai o’r anghenion mwyaf dybryd o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ac o ran darparu’r llwybrau hynny i’r sawl sydd eisiau arbenigo mewn anghenion dysgu ychwanegol a thrwy hynny annog gwell recriwtio yn y maes hwn,” meddai.

“Os ydych yn chwilio am yrfa gyffrous sy’n cynnig gwerth gwirioneddol wrth gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, byddai’r cwrs hwn yn ddewis ardderchog.”

Cydweithio ag ysgolion

Bydd y rhaglen yn gweithio’n agos gydag Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam, ac Ysgol y Gogarth, Llandudno fel y ddwy ysgol arweiniol fydd yn cefnogi dysgu’r myfyrwyr.

Bydd lleoliadau dysgu hefyd ar gael mewn Ysgolion Arbennig ac unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws y gogledd.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac Ysgol y Gogarth i gefnogi athrawon y dyfodol,” meddai Margaret Davies, Pennaeth Ysgol Sant Christopher.

“Bu angen y llwybr hwn ers amser maith i gefnogi myfyrwyr sy’n dymuno gweithio ac addysgu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliadau prif ffrwd ac ysgolion arbennig ledled Cymru.”

Mae’n “ddatblygiad cyffrous ym maes addysg ac anghenion dysgu ychwanegol”, yn ôl Lisa Kovacs, Pennaeth Ysgol y Gogarth.

“Edrychwn ymlaen at chwarae rhan weithredol yn addysg ein darpar athrawon a chydweithwyr,” meddai.

“Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gadarn iddynt adeiladu gyrfaoedd mewn maes addysgu arbenigol anhygoel a hefyd yn cefnogi athrawon i gofleidio cynwysoldeb yn eu hystafelloedd dosbarth.”

Bydd y rhaglen ar gael naill ai drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg a rhoddodd Cyngor y Gweithlu Addysg ganmoliaeth i’r bartneriaeth hefyd am ei hymrwymiad i’w darpariaeth Gymraeg, gan gydnabod natur unigryw lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol a cheisio paratoi athrawon dan hyfforddiant i’w galluogi i wneud darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.