Bydd Gŵyl UMCA yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Mehefin 15), gyda’r holl gyn-fyfyrwyr wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd i Aberystwyth am y penwythnos.

Mae’r Undeb Myfyrwyr cyntaf i Gymry Cymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni.

Yn 1974, o dan arweiniad Wayne Williams a Rhodri Glyn Thomas, cafodd UMCA ei sefydlu i gynrychioli llais myfyrwyr Cymraeg y brifysgol.

Prif nod UMCA o’r dechrau oedd ymgyrchu dros Gymreictod y brifysgol, a’r iaith Gymraeg yn gyffredinol.

Mae UMCA wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau ac anawsterau ar hyd y degawdau, gan chwarae rhan allweddol mewn nifer o ymgyrchoedd, megis yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn fwy diweddar i ‘Achub Pantycelyn’, y neuadd breswyl Gymraeg.

Mae Llywydd UMCA hefyd yn cael sefyll ar rai o brif bwyllgorau’r brifysgol, megis Cyngor y Brifysgol, Prif Bwyllgor y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd, a Senedd y Brifysgol.

Trefn yr ŵyl

Rhwng 11:00yb a 12:30yp, bydd cyn-lywyddion UMCA yn cwrdd yn nhafarn yr Hen Lew Du amser cinio i fwyta, cymdeithasu a hel atgofion.

Am 1:00yp, bydd teithiau tywys o amgylch Pantycelyn er mwyn i gyn-aelodau weld y neuadd ar ei newydd wedd.

Am 3:30yp, bydd sesiwn holi ac ateb gyda chyn-lywyddion UMCA o bob degawd yn ei hanes, sef Dyfrig Berry (1975-76), Aled Siôn (1984-85), Emyr Wyn Francis (1996-97), Meilyr Emrys (2002-03), Mared Ifan (2013-14), ac Elain Gwynedd (2023-presennol).

Am 6:00yp, bydd gig Gŵyl UMCA yn yr Undeb gyda Mynediad am Ddim, Dros Dro, Cyn Cwsg a Mei Emrys.

Bydd y rhan fwyaf o’r digwddiadau’n cael eu cynnal yn Neuadd Pantycelyn, sy’n ganolbwynt y bywyd Cymraeg a holl ddigwyddiadau a gweithgareddau UMCA, ac yno hefyd mae swyddfa Llywydd UMCA.

‘Fy ngwneud i’n bwy ydw i heddiw’

Dywed Elain Gwynedd, Llywydd UMCA, fod ganddi “atgofion gwerthfawr” o’i hamser yn aelod o’r undeb.

“Dw i’n edrych ymlaen yn arw at gael dathlu hanner canrif Undeb arbennig sydd, mewn gwirionedd, wedi fy ngwneud i’n bwy ydw i heddiw,” meddai wrth golwg360.

Yn goron ar y cyfan, llwyddodd y myfyrwyr dan arweiniad Elain Gwynedd i sicrhau’r hawl i ddefnyddio enw Cymraeg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn unig o hyn ymlaen.

Dywed fod “eleni’n flwyddyn bwysig iawn yn hanes UMCA, gan ein bod yn dathlu hanner can mlynedd”.

“Felly, mae llwyddo i newid enw’r Undeb ehangach i un uniaith Gymraeg yn goron ar ein dathliadau,” meddai.

Prynnwch docynnau ar gyfer y gig ar wefan Undeb Aberystwyth Native.