Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar gyfres o argymhellion i fynd i’r afael â thoriadau i rai o wasanaethau’r sir.

Yn eu plith, fe fyddan nhw’n ystyried dyfodol Neuadd Dwyfor sy’n cynnig gwasanaethau sinema, theatr a llyfrgell ym Mhwllheli. Mae tua 7,000 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Cyngor i beidio â chyflwyno toriadau i’r ganolfan honno.

Mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno i ystyried dyfodol Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Cynnig arall yw cyflwyno cynnydd o 3.97% mewn Treth Gyngor yn hytrach na 3.5%. Mae disgwyl toriad yng nghyllideb y ffyrdd hefyd.

Mae disgwyl i’r Cyngor llawn bleidleisio ar yr argymhellion hyn fis nesaf (Mawrth 3) wrth i Gyngor Gwynedd geisio pontio’r diffyg ariannol o £5.5 miliwn.

‘Cydbwysedd orau bosib’

“Y peth diwethaf y byddai’r un ohonom fel cynghorwyr yn awyddus ei wneud byddai torri gwasanaethau,” meddai Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Fodd bynnag, rydym yn credu bod yr argymhellion yma yn taro cydbwysedd orau bosib rhwng gwarchod y gwasanaethau a flaenoriaethwyd gan bobl leol yn ystod ymgynghoriad Her Gwynedd, gwarchod y gwasanaethau sy’n bwysig ar gyfer ardaloedd neu sector penodol ac effaith cynnydd Treth Gyngor ar gartrefi Gwynedd.”

Esboniodd fod mwy na 2,100 o bobol wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Her Gwynedd, gan ddewis o blith 118 o opsiynau.

‘Gosod cyllideb gytbwys’

“Mae’n ffaith bod 75 ceiniog o bob £1 sydd ar gael i Gyngor Gwynedd er mwyn cynnal ein gwasanaethau lleol yn dod yn uniongyrchol gan y llywodraeth.

“Gan fod y cyllid yma gan y llywodraeth yn parhau i gael ei dorri, fel pob cyngor arall  ar draws Prydain, nid oes gan Wynedd unrhyw opsiwn arall ond i weithredu toriadau i wasanaethau er mwyn gosod cyllideb gytbwys,” ychwanegodd Dyfed Edwards.