Ffatri gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Bydd gweithwyr dur o Bort Talbot yn ymuno â miloedd o weithwyr dur eraill mewn protest enfawr ym Mrwsel heddiw i alw am gamau brys i helpu’r diwydiant.

Bydd cannoedd o weithwyr o Gymru a’r DU ymysg y rhai fydd yn pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i’r afael â’r broblem o ddur rhad o China sy’n boddi’r farchnad yn Ewrop.

Bydd Karl Koehler, prif weithredwr Tata Steel Ewrop yn gorymdeithio ochr yn ochr â gweithwyr o ffatrïoedd y cwmni yn y DU, gan gynnwys Port Talbot lle mae 750 yn wynebu colli eu swyddi.

‘Camau cadarn’

Dywedodd Karl Koehler fod y diwydiant dur mewn perygl o ddiflannu yn Ewrop os nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd yn “cymryd camau cadarn ar unwaith.”

“Os nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau cadarn ar unwaith fe fydd miloedd o swyddi yn y diwydiant, a miloedd o swyddi eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, dan fygythiad.

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, fod y Llywodraeth yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur ac yn gweithio “ddiflino” i’w helpu.

Bydd undebau GMB, Unite a Community hefyd yn ymuno a’r brotest am hanner dydd heddiw i alw am weithredu yn hytrach na chyfarfodydd diddiwedd.

Dywedodd swyddog cenedlaethol GMB, Dave Hulse: “Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud y nesaf peth at ddim i achub swyddi dur.

“Mae angen i’r Prif Weinidog ddringo oddi ar y ffens a dweud wrth Brwsel bod angen camau i helpu’r diwydiant dur yn y DU.”