Mae cwmni bancio HSBC wedi cyhoeddi y bydd yn cadw ei bencadlys yn y DU ar ôl cynnal adolygiad.

Fe ddatgelodd banc mwyaf Ewrop y llynedd ei fod yn ystyried symud y pencadlys i wlad arall oherwydd pryderon ynglŷn â rheoliadau mwy llym.

Dywedodd cadeirydd Grŵp HSBC Douglas Flint bod y penderfyniad i gadw’r pencadlys yn Llundain “yn cynnig y canlyniad gorau i’n cwsmeriaid a’n cyfranddalwyr.”