Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Hayley Rowley o Gei Conna, Sir y Fflint, sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Dan Do ar S4C.

Mae Hayley wedi bod yn dysgu Cymraeg ers iddi fod yn yr ysgol. Rŵan mae hi’n cael gwersi bob wythnos gyda Popeth Cymraeg. Mae hi’n gweithio fel dylunydd graffeg i bapur newydd…

Hayley, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Fy hoff raglen ydy Dan Do.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Dw i’n hoffi gwylio Dan Do achos mae’n rhaglen neis iawn i wylio. A dw i’n hoffi gweld y dyluniad mewnol yn y tai. Hefyd, dw i’n medru gwylio efo is-deitlau ac ymarfer fy Nghymraeg.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Cyflwynwyr Dan Do ydy Aled Samuel a Mandy Watkins. Maen nhw’n wybodus ac yn frwdfrydig am dai, ond hefyd yn ddoniol.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg achos mae ‘na is-deitlau i chi gael deall y cyd-destun yn well.

Ydyn nhw’n siarad iaith y De neu’r Gogledd?

Maen nhw’n siarad iaith y gogledd. Mae’r cyflwynwyr Mandy Watkins ac Aled Samuel yn dod o ogledd Cymru yn wreiddiol.