Bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â chynghorau i wneud newidiadau wedi’u targedu i ffyrdd sydd â’r terfyn cyflymder 20m.y.a.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, bydd y llywodraeth yn gwrando ar bobol y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i gredu mai 20m.y.a. yw’r cyflymder cywir ar gyfer ffyrdd sy’n agos at ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, ardaloedd chwarae a thai, meddai.

Fodd bynnag, byddan nhw’n cymryd tri cham i wrando ar farn pobol am ddiogelwch ffyrdd.

  1. Rhwng nawr a Gorffennaf, byddan nhw’n gwrando ar drigolion, gyrwyr bysiau, y gwasanaethau brys, yr heddlu, pobol ifanc, pobol agored i niwed, busnesau a chynghorwyr sir, tref a chymuned i ddeall eu barn.
  2. Byddan nhw’n cydweithio â chyrff i baratoi at newid – mae cynghorau’n edrych ar ffyrdd lleol lle y gall fod angen newid, meddai Ken Skates. Yn rhan o hynny, bydd yn annog pobol i gysylltu â chynghorau i ddweud lle dylid targedu’r 20m.y.a., a bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r canllawiau sy’n eithrio rhai ffyrdd rhag bod yn rhai 20m.y.a.
  3. Gwneud y newidiadau.

Dywed hefyd ei fod yn disgwyl i newidiadau ddechrau digwydd ym mis Medi, ond fod graddfa’r newidiadau’n dibynnu ar y cyhoedd a’r cynghorau lleol, gan mai nhw yw’r awdurdod ffyrdd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl y wlad.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn disgwyl i gynghorau dalu am newid rhai ffyrdd yn ôl i 30m.y.a., yn ôl Ken Skates.

“Prif nod y polisi ydy caniatáu i bobol deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau drwy leihau nifer y gwrthdrawiadau,” meddai’r Ysgrifennydd Cabinet.

“Nawr dw i’n gwrando ar yr hyn mae pobol eisiau ar gyfer y ffyrdd yn eu cymunedau nhw, ac yn bwrw ymlaen â pherffeithio’r polisi a chael y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn.”

‘Naid feiddgar’

Cyn y cyhoeddiad, roedd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wedi rhybuddio yn erbyn tro pedol.

Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod bron i 70% o wrthdrawiadau lle mae plant yn cael eu hanafu yn digwydd ar ffyrdd sydd â therfyn o 30m.y.a.

“Cymerodd Cymru naid feiddgar wrth ymuno â chenhedloedd eraill y byd a chyflwyno’r newid mewn terfynau cyflymder rhagosodedig i 20m.y.a. lle mae pobol yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn chwarae – cam i’r cyfeiriad cywir i symud Cymru o strydoedd lle mae ceir yn dominyddu i strydoedd sy’n teimlo’n ddiogel, cerddedadwy a chyfeillgar,” meddai.

“Tra bod angen gwelliannau i weithrediad y polisi 20m.y.a., mae’n rhaid i les ein cymunedau aros wrth galon y polisi hwn.”

‘Dim wedi newid’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu’r polisi ers iddo gael ei gyflwyno, a dydy’r cyhoeddiad heddiw ddim yn mynd yn ddigon pell, medd y blaid.

“Ar ôl holl siarad Llafur am wrando ar bobol Cymru, 20m.y.a. fydd y terfyn cyflymder rhagosodedig ledled Cymru o hyd,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Does dim wedi newid i bobol yng Nghymru na thu hwnt.

“Yn hytrach na gwneud i gynghorau glirio llanast y polisi niweidiol a gwirion hwn, sy’n creu rhwygiadau, dylid cael gwared arno’n gyfan gwbl, fel bod synnwyr cyffredin yn trechu ac 20m.y.a. yn aros lle mae ei angen – o flaen ysgolion, ardaloedd chwarae, mannau addoli, ar y stryd fawr ac ati.”