Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Cymru yn mynnu ymddiheuriad gan y Ceidwadwyr yn San Steffan yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd ar iechyd.
Yn ôl adroddiad gan yr OECD, dyw gwasanaethau iechyd yng Nghymru ddim gwaeth nag unrhyw ran arall o Brydain, er bod hynny wedi cael ei honni sawl gwaith gan y Prif Weinidog David Cameron a’i Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt.
Ond mae’r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd wedi mynnu bod sail i’r beirniadaethau o wasanaeth iechyd Cymru, gan nad oedd yr adroddiad newydd yn ystyried amseroedd aros.
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones bod yr OECD wedi codi pryderon ynglŷn â byrddau iechyd Cymru gan awgrymu bod angen mwy o reolaeth ganolog.
‘Celwydd’
Roedd Carwyn Jones yn sydyn i fanteisio ar ganfyddiadau’r adroddiad, gan ddweud ei fod yn gwrthbrofi’r “celwydd” oddi wrth Lywodraeth San Steffan bod y sefyllfa iechyd yn waeth yr ochr hwn i Glawdd Offa.
“Mae rheswm da pam nad yw meddygon iau ar streic yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae hynny oherwydd ein bod ni’n gwerthfawrogi gweithwyr ein gwasanaeth iechyd, ac yn gweithio gyda nhw i foderneiddio a chyflwyno newidiadau.”
Mynnodd bod llawer o bethau da am y gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys mynediad cynt i gyffuriau canser a mwy o fuddsoddiad mewn hyfforddi nyrsys.
Beirniadaeth
Mae arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd Andrew RT Davies wedi cyfeirio at doriadau o £1bn i’r gyllideb iechyd yng Nghymru ers 2011, a diffyg mynediad i rai cyffuriau canser.
“Gadewch i ni fod yn glir – dyw hon ddim yn adroddiad cymharol, a dyw hi ddim yn ystyried un o elfennau pwysicaf profiad y claf, sef amseroedd aros,” meddai.
Ychwanegodd Plaid Cymru ei bod hi’n bryd diwygio’r byrddau iechyd a chreu gwasanaethau cymunedol i ateb anghenion lleol.
Ond dyw Llywodraeth San Steffan heb ymateb i sylwadau diweddaraf Carwyn Jones.