Mae trefnwyr menter gymunedol i brynu marina yn y gogledd wedi cael gwybod na fu eu cais yn llwyddiannus.

Clywodd Menter Felinheli dros y penwythnos fod llythyr wedi’i anfon gan reolwr y marina i berchnogion cychod ar y safle, yn dweud mai cynnig gan y Waterside Consortium o Sir Gaer sydd wedi llwyddo.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu yn fuan i esbonio’r ffordd ymlaen, ac i roi cyfle i fuddsoddwyr ofyn cwestiynau a chynnig awgrymiadau ar gyfer prosiectau eraill yn y pentref.

Mae’r fenter bellach yn apelio ar y cannoedd o bobol sydd wedi cyfrannu tuag at eu cynnig “beiddgar” i gadw eu buddsoddiad yn y fenter tra byddan nhw’n datblygu cynlluniau eraill ar gyfer buddsoddi yn y pentref.

‘Sbardun i gymunedau ar draws Cymru’

Er gwaetha’r methiant, dywed y trefnwyr fod eu cynnig wedi ysbrydoli nifer o fentrau tebyg ar hyd a lled Cymru, gan beri i nifer ohonyn nhw edrych eto ar gynigion uchelgeisiol yn eu hardaloedd eu hunain.

Bu safle’r marina yn y Felinheli yn nwylo’r derbynwyr ers i’r cwmni oedd yn berchen arno, yn ogystal â phedwar cwmni arall, fynd yn fethdalwr fis Mehefin diwethaf.

Cyflwynodd Menter Felinheli eu cynnig i brynu’r safle ym mis Medi – y cynnig cyntaf o’i fath am farina yng Nghymru – ac fe wnaeth ymgyrch ddenu £127,000 mewn buddsoddiadau.

Roedden nhw’n gobeithio y gallai’r arian sydd wedi’i godi gan 386 o fuddsoddwyr gwahanol, ynghyd â cheisiadau am grantiau a benthyciadau, roi’r safle hanesyddol yn nwylo’r gymuned am y tro cyntaf.

“Mi rydan ni’n siomedig ofnadwy, wrth gwrs,” meddai Huw Watkins, un o arweinwyr y prosiect.

“Fe fyddai perchnogaeth gymunedol o’r marina wedi bod yn gaffaeliad anhygoel i’r pentref.

“Fe fyddai’r holl elw o’r safle yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned – ond fe all pawb sydd wedi ymwneud a’r ymgyrch fod yn falch iawn o’r gwaith maen nhw wedi gwneud.

“Fe allwn ni hefyd fod yn fodlon ein bod ni wedi gweithio’n tu hwnt o galed ac wedi cyflwyno cynnig teg a rhesymol am y safle.”

‘Calonogol’

“Mae’n galonogol bod llawer o fentrau eraill ar hyd a lled y wlad yn edrych ar be wnaethon ni a gofyn sut gallan nhw hefyd fod yn fwy beiddgar,” meddai Gwyn Roberts, un arall o’r arweinwyr.

“Felly, er na lwyddon ni y tro yma, mae’n galondid y gall ein hymgyrch fod yn sbardun i gymunedau ar draws Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol ac edrych eto ar be’ allan nhw ei gyflawni yn eu hardaloedd nhw.”

Edrych ar opsiynau eraill

Pwysleisia Tudur Owen, y digrifwr a chyflwynydd sy’n un arall o drefnwyr yr ymgyrch, fod dyfodol disglair i’r fenter, a’u bod nhw eisoes wedi dechrau edrych ar opsiynau eraill i ddod â mwy o lewyrch i’r ardal.

“Nid i brynu’r marina yn unig wnaethon ni ffurfio’r Fenter,” meddai.

“Ein bwriad ni o’r cychwyn cyntaf oedd creu a hyrwyddo prosiectau lleol fyddai’n elwa’r pentref, a dyna ydi’n bwriad ni o hyd.

“Mae’r marina wedi mynd rŵan, ond rydan ni eisoes yn meddwl be’ arall allwn ni wneud yma.

“Mae mentrau cymunedol ar hyd a lled Cymru wedi datblygu pob math o gynlluniau cyffrous i wella’u hardaloedd nhw – a dyna fyddwn ni’n wneud hefyd.

“Fe fyddai prynu’r marina wedi bod yn gam cyntaf gwych i’r fenter – ond rŵan mae’n rhaid meddwl am opsiynau eraill, a dyna rydan ni’n wneud.

“Os oes gan unrhyw un syniadau y gallwn ni eu hystyried, plis cysylltwch hefo ni.”

‘Pob lwc’

Mae un o drefnwyr eraill y fenter wedi dymuno’r gorau i berchnogion newydd y marina.

“Pob lwc i’r perchnogion newydd yn eu hymdrechion i redeg y busnes mewn safle pwysig iawn i’r pentref,” meddai Alun Meirion, pedwerydd cyfarwyddwr y fenter.

“Diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi.

“O unigolion sydd wedi cyfrannu punnoedd prin, i Gyngor Gwynedd oedd wedi cymeradwyo benthyciad o filiwn o bunnoedd i ni, mae’r holl gefnogaeth wedi’n hysbrydoli.

“Ac er na fyddwn rŵan yn prynu’r marina, fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion gwerthchweil eraill yn yr ardal.”