Mae’r ffordd mae cymdeithas dai Adra yn trin eu tenantiaid yn “afiach”, yn ôl tenant o Bontnewydd.

Mae Gareth Hughes-Evans yn anhapus efo ymateb Adra, ar ôl i beipen ollwng dŵr, gan greu difrod i’w soffa, papur wal a charped.

Yn wreiddiol, roedd wedi adrodd wrth Adra fod tap yn gollwng ar Ionawr 15, a dywedodd Adra nad oedd neb yn gallu dod allan tan Ionawr 29.

Roedd Adra a’r gŵr yn anghytuno ynghylch a oedd tap yn gollwng yn fater brys.

Aeth Gareth Hughes-Evans i ffwrdd ar Ionawr 20 a dychwelyd dridiau’n ddiweddarach, ac roedd dŵr wedi gollwng ar hyd y tŷ ac ar ddodrefn.

‘Cywilyddus’

Yn ôl Gareth Hughes-Evans, mae’r bai yn llwyr ar Adra am iddyn nhw ei adael â thŷ lle mae dŵr yn gollwng, ond maen nhw’n dweud nad eu bai nhw yw’r sefyllfa.

Mae Gareth Hughes-Evans yn dweud ei fod yn “gywilyddus” sut mae Adra yn trin pobol sy’n talu rhent iddyn nhw.

Dywed fod yr oglau achosodd y dŵr yn ofnadwy, a bod cymydog iddo wedi cwyno wrth Adra hefyd.

A chan fod y llawr wedi’i wneud o bren, mae pryder bellach am y difrod sydd wedi’i achosi oddi tano.

Ymateb Adra

“Roedd yn flin gennym glywed am y broblem yng nghartref y tenant,” meddai llefarydd ar ran Adra.

“Mi dderbyniwyd galwad ar Ionawr 17 am broblem gydag un o’r tapiau yn gollwng i mewn i’r bath.

“Nid oedd y math yma o alwad yn cael ei hystyried yn argyfwng, a chytunwyd gyda’r tenant i ni ymweld â’r cartref ar y 29ain o’r mis, yn unol â safonau gwasanaeth.”

Ond mae Gareth Hughes-Evans yn wfftio ei fod wedi cytuno i Adra ymweld ar y dyddiad hwnnw.

“Fodd bynnag, mi dderbyniwyd galwad argyfwng ar y 23ain, a bu dau o dîm Adra yn ymweld â’r cartref,” meddai’r llefarydd.

“Cafodd y broblem ei hynysu, a chafodd tap newydd ei osod y diwrnod canlynol.

“Ers hynny, mae gwaith adfer wedi cymryd lle.

“Rydym wedi bod mewn gohebiaeth gyda’r tenant ac mae’n flin gennym os nad yw’n hapus gyda’r ymateb.

“Mae trefniadau yn eu lle os ydy’r tenant yn dymuno mynd a’r mater drwy’r broses gwynion.”