Bydd Castell Penrhyn yn archwilio’i hanes diwydiannol oedd wedi gweddnewid y gogledd, yn dilyn datblygiad technoleg ac entrepreneuriaeth yn y diwydiant llechi.

Bydd profiad newydd o’r enw ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’ yn rhoi lle blaenllaw i eitemau yn y casgliad sydd heb eu rhannu o’r blaen, a bydd yn taflu goleuni newydd ar eitemau allweddol megis Charles, sef locomotif fyddai’n rhedeg ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn.

Mae Castell Penrhyn yn ymroi i rannu ei hanes diwydiannol, ac mae wedi ailgartrefu rhai locomotifau nad oes ganddyn nhw gysylltiad â’r eiddo mewn amgueddfeydd eraill, lle bydd modd egluro a dehongli eu storïau’n well.

O Efrog Newydd i Gastell Penrhyn, bydd y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones yn cynnal yr arddangosfa ‘Chwarelwyr – Quarrymen’ yn yr Hen Stablau.

Yn ogystal â hyn, testun arddangosfa newydd yn y castell fydd paentiad Henry Hawkins, ‘The Penrhyn Slate Quarry’, fydd yn ymddangos fel pe bai’r ymwelydd wedi camu i mewn i’r ffrâm.

Profiad newydd yn yr hen stablau

Mae Castell Penrhyn a’r Ardd yn gweithio i ddatblygu profiad newydd yn yr Hen Stablau i rannu storïau hanes diwydiannol Penrhyn, ac i roi lle blaenllaw i eitemau yn y casgliad sydd heb eu rhannu o’r blaen.

Wedi’i adeiladu ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae pensaernïaeth drawiadol, ystafelloedd godidog a chasgliad celf gain Castell Penrhyn yn cyd-fynd â hanes hirfaith cyfoeth y diwydiant siwgr a llechi, ynghyd ag aflonyddwch cymdeithasol a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes gwledydd Prydain.

Roedd Chwarel Lechi’r Penrhyn a Phorth Penrhyn, gafodd ei sefydlu gan y teulu Pennant, yn flaenllaw yn niwydiant llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd.

Cafodd cymuned ei rhwygo, a newidiodd y rhan hon o ogledd Cymru am byth.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu rhannau o’r hanes yma drwy gyfres o arddangosfeydd ac arddangosiadau dros y degawd diwethaf yng Nghastell Penrhyn, ac erbyn hyn maen nhw’n gweithio ar gynlluniau i rannu rhagor o storïau am hanes diwydiannol Penrhyn.

Y diwydiant llechi

Yn ôl Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn a’r Ardd gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, cafodd y diwydiant llechi yn y gogledd effaith nid yn unig ar y gymdeithas leol ond yn fyd-eang hefyd.

“Fel rhan o’n profiad newydd yn yr Hen Stablau, bydd ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’ yn rhannu’r datblygiad newydd rhyfeddol hwn o safbwynt technoleg ac entrepreneuriaeth,” meddai.

“Yn ogystal â hyn, bydd y profiad newydd yn mynd law yn llaw ag amlygu rôl Castell Penrhyn yn yr hanes hwn sydd o arwyddocâd ar lefel fyd-eang, ochr yn ochr â’n partneriaid a’n cymunedau, fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.”

‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’

Bydd yr Hen Stablau, sef cartref blaenorol yr Amgueddfa Reilffordd, yn newid i ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’, fydd yn rhannu stori treftadaeth ddiwydiannol Castell Penrhyn.

Bydd nifer o locomotifau a wagenni sy’n gysylltiedig â Chwarel y Penrhyn yn parhau i gael eu harddangos, gan gynnwys Charles, sef locomotif a redodd ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn tan y 1950au, ac a fydd yn ganolbwynt i’r stori ryfeddol, ynghyd â cherbyd salŵn Penrhyn a cherbyd agored chwarelwyr y Penrhyn, fydd yn parhau i ddarparu profiad difyr i ymwelwyr.

Locomotifau

Yn ôl Richard Pennington, Uwch Reolwr Casgliadau a’r Tŷ, Castell Penrhyn a’r Ardd, mae’r locomotifau sydd wedi’u cadw yng nghastell Penrhyn yn bwysig o safbwynt treftadaeth ddiwydiannol.

“Mi fuom yn adolygu’r modd yr ydyn ni’n arddangos ein casgliad wrth edrych ar sut y mae hanes yn cael ei gyflwyno yng Nghastell Penrhyn, a rhan o’r broses hon oedd edrych ar ein casgliad o locomotifau yn nhermau pa mor berthnasol ydyn nhw i stori Castell Penrhyn o safbwynt ei dreftadaeth ddiwydiannol,” meddai.

“Er mwyn rhoi lle blaenllaw i’r rhan ganolog hon o stori Penrhyn, rydyn ni wedi dychwelyd neu ailgartrefu rhai o’r locomotifau, nad oes ganddyn nhw gysylltiad â stori’r eiddo, mewn amgueddfeydd eraill, lle gellir egluro a dehongli eu storïau’n well.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael rhoi cyfleoedd newydd i’r locomotifau, y bydd rhai ohonyn nhw’n dod yn weithredol unwaith eto, a bydd rhai eraill yn darparu profiadau newydd a difyr i ymwelwyr, gyda staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr medrus a brwdfrydig yn gofalu amdanyn nhw.”

Arddangosfeydd celfyddydol

Yn ôl Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn a’r Ardd, bydd yr hanes lleol yn cael ei arddangos drwy arddangosfa ffotograffiaeth Carwyn Rhys Jones.

Maen nhw hefyd am ailfframio’r paentiad ‘The Penrhyn Slate Quarry’ gan Henry Hawkins.

“Mae hanes Castell Penrhyn wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol, ac rydyn ni wedi ymroi i rannu’r hanes hwn,” meddai.

“Mae ‘Chwarelwyr – Quarrymen’ yn cynnwys pum llun mawr, y mae pob un yn arddangos Cymro dreuliodd ei fywyd yn gweithio yn chwareli Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn.

“A’r rheiny wedi’u harddangos gyntaf yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, fe gynhaliwyd yr arddangosfa wedyn yn Abertawe, Sir Benfro, Efrog Newydd, Vermont a Pennsylvania, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eu harddangos nesaf yng Nghastell Penrhyn.

“Fel rhan o’r gwaith ailfframio, mi fyddwn yn gweithio gyda phedwar grŵp lleol i gyflwyno eu lleisiau o fewn y castell, a bydd gennym arddangosfa newydd hefyd, a fydd yn ymddangos fel pe baech chi wedi camu i mewn i’r ffrâm.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd gennym o’n blaenau, a bydd llawer i’w weld a’i wneud eto yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd.”

Manylion pellach

Bydd yr Hen Stablau ar gau dros dro yn ystod cyfnod o waith cadwraeth fydd angen ei wneud yn yr adeilad yn dilyn symud y locomotifau a’u traciau.

Wrth wneud y gwaith, bydd Castell Penrhyn yn gweithio ar ddatblygu’r profiad newydd, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael croesawu pobol i ‘Penrhyn a’i Ddiwydiannau’ a’r arddangosfa newydd yn y castell yn nes ymlaen yn 2024.

Mae’r ardd ar agor ar benwythnosau hyd at Chwefror 11, a phob dydd wedyn o Chwefror 11.

Bydd y castell yn ailagor ar Fawrth 1.