Mae Hwb Ogwen, un o fanciau bwyd Arfon sy’n gobeithio derbyn £2,000 i helpu pobol gyda’u tlodi bwyd, yn dweud ei bod hi’n broblem sy’n gallu effeithio ar bobol sy’n gweithio hyd yn oed.

Y prosiectau bwyd eraill allai elwa ar yr ymgyrch yw Banc Bwyd Arfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd Yr Orsaf ym Mhenygroes, Porthi Dre yng Nghaernarfon, Cynllun Bwyd Cwm-y-glo a Llanrug a Banc Bwyd Cadeirlan Bangor.

Yn ôl rheolwr Hwb Ogwen, banc bwyd ym Methesda, mae’r sefyllfa’n “dorcalonnus” yn ardal Dyffryn Ogwen.

Nid yn unig pobol nad ydyn nhw’n gweithio sy’n ei chael hi’n anodd, ond pobol sydd yn gweithio hefyd.

Ym mis Rhagfyr, cafodd apêl Nadolig ei lansio gan y gwleidyddion lleol – yr Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams – a hynny er mwyn rhoi hwb i gronfeydd wyth banc bwyd lleol.

Daeth yr apêl i ben ddechrau Ionawr ar ôl rhagori ar y targed gwreiddiol o £750, wrth iddyn nhw godi £2,050.

Cafodd ei lansio rai misoedd ar ôl i Hywel Williams gyhoeddi adroddiad yn bwrw golwg ar dlodi yn Arfon.

Asesiad o’r sefyllfa yn Arfon

Cafodd Sefydliad Bevan eu comisiynu i archwilio sefyllfa tlodi yn yr etholaeth, ac i ddod o hyd i ddatrysiadau.

Nododd yr adroddiad fod materion penodol yn effeithio ar yr ardal, gan gynnwys tâl isel a chyflogaeth ansicr, yn ogystal â chostau tai, ynni a theithio uchel.

Cafodd yr arian ei godi yn dilyn adroddiadau gan Fanc Bwyd Coed Mawr yn yr etholaeth fod mwy a mwy o deuluoedd lleol yn dibynnu ar wasanaethau’r banciau bwyd, yn ogystal ag adroddodd gan y Trussell Trust fod cynnydd o 16% yn y defnydd o fanciau bwyd y llynedd.

Oherwydd bod cynifer o bobol yn dioddef yn sgil tlodi bwyd, dydy Hwb Ogwen ddim yn cael cymaint o roddion bellach, ac yn gorfod prynu o’r archfarchnadoedd.

Efo’r pres maen nhw wedi’i dderbyn, maen nhw’n bwriadu prynu mwy o fwyd i fynd i’r afael â thlodi bwyd yn yr ardal.

Haelioni’r gymuned

Dywed Siân Gwenllian fod pobol wedi bod yn hael i eraill sy’n llai ffodus yn y gymdeithas.

Ychwanega fod tlodi bwyd yn bwnc llosg, gyda Llywodraeth Cymru yn cyflwyno prydau am ddim ac yn annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol.

“Mae diffyg mynediad at fwyd yn arwydd clir nad ydi cymdeithas yn gweithio i bawb,” meddai.

“Dyna pam dw i’n falch o fod yn aelod o blaid sydd, trwy ein Cytundeb Cydweithio arloesol gyda Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno prydau ysgol am ddim.

“Bydd pob plentyn ysgol gynradd, a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi eleni.

“Rhan bwysig arall o’r Cytundeb yw’r Strategaeth Fwyd Gymunedol a fydd yn annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol yng Nghymru, a’r gobaith yw y bydd yn arwain at ostyniad mewn gwastraff bwyd.

“Gallai cynllun o’r fath adeiladu ar gryfder prosiectau bwyd cymunedol yng Ngwynedd sy’n mynd i’r afael â bwyd dros ben o archfarchnadoedd.

“Mae llawer o waith i’w wneud i fynd i’r afael â thlodi bwyd, a dwi’n hyderus y bydd bodolaeth brawychus banciau bwyd ar flaen meddyliau pobl wrth bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol eleni.”

Y rhai sydd ar yr incwm isaf

Yn ôl yr Aelod Seneddol Hywel Williams, mae tlodi bwyd yn waeth i’r rhai sydd ar yr incwm isaf, ond mae pobol Arfon wedi bod yn hael efo nhw.

“Rydan ni’n gweld mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod troi at fanciau bwyd lleol am gymorth oherwydd y cynnydd mewn costau byw,” meddai.

“Mae costau cynyddol bwyd a thanwydd yn effeithio ar bawb, ond i deuluoedd sydd ar yr incwm isaf mae’r argyfwng hwn gymaint yn waeth.

“Rydan ni’n ffodus bod yn Arfon gymaint o bobl dosturiol a ddaeth i’r adwy yn ein hapêl Nadolig.

“Diolch i bawb a gyfrannodd.”