Daryush Valizadeh
Mae dyn o America, sydd wedi galw am gyfreithloni treisio mewn eiddo preifat, a oedd wedi trefnu ymweliad i Gaerdydd wedi’i orfodi i ganslo cyfres o gyfarfodydd yn y DU.

Dywedodd Daryush Valizadeh, 36, – sydd hefyd yn galw ei hun yn  Roosh V, na fyddai’n gallu sicrhau diogelwch pawb oedd eisiau mynd i’r digwyddiadau.

Roedd disgwyl iddo ddechrau ei daith o amgylch y DU ddydd Sadwrn, gan gynnwys Caerdydd, gan  gynnal cyfres o ddigwyddiadau i “ddynion gwahanrywiol yn unig”.

Roedd protestwyr wedi galw am wahardd y cyfarfodydd ac roedd 55,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn ei erbyn.

“Mae’n annog dynion i anwybyddu merch sy’n dweud ‘na’, mae’n credu y dylai treisio mewn eiddo preifat fod yn gyfreithiol ac mae’n aml yn cyfeirio at fenywod fel y gelyn,” meddai Katie Pruszynski, a ddechreuodd y ddeiseb ar Change.org.

Roedd y digwyddiadau wedi cael eu trefnu yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin, Glasgow, Manceinion, Newcastle, Leeds a’r Amwythig.

Roedd gweinidog y Swyddfa Gartref yn ateb cwestiynau ar y mater heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl i lefarydd Llafur dros fenywod a chydraddoldeb, Katie Green, gyflwyno cwestiwn brys.

‘Safbwyntiau ffiaidd’

Cyn canslo’r digwyddiadau, roedd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr heddlu er mwyn ceisio atal Daryush Valizadeh rhag dod i Gaerdydd.

Mewn datganiad, dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Neil McEvoy: “Yn bersonol rwy’n credu fod safbwyntiau’r gŵr hwn yn ffiaidd. Mae angen i Gaerdydd anfon neges gref ac unfrydol iddo.

“Dyna pam fod ymgeiswyr Plaid Cymru yn ein prifddinas yn uno i annog pobl ledled Caerdydd a thu hwnt i feirniadu’r fath gasineb.

“Mae’r gŵr hwn nid yn unig yn pregethu casineb tuag at ferched, mae hefyd yn hyrwyddo trais rhywiol ac wedi brolio sawl gwaith ei fod yn credu y dylid cyfreithloni trais ar eiddo preifat.”