Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i leisio barn am ddyfodol Ambiwlans Awyr Cymru, wrth i ymgyrchwyr geisio cadw canolfannau Caernarfon a’r Trallwng ar agor.

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr un etholaeth, yn annog eu hetholwyr i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed cyn i benderfyniad gael ei wneud ar ddyfodol y ddau safle.

Mae Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans yn ymgynghori ar newidiadau i’r ffordd mae’r gwasanaeth achub bywyd yn cael ei ddarparu ar draws y gogledd-orllewin a’r canolbarth.

Mae cam ola’r ymgynghoriad yn rhedeg o Chwefror 1-29, pan fydd Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans yn cyflwyno’i argymhelliad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC).

Bydd y pwyllgor wedyn yn gwneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Fe fu cynrychiolwyr o Blaid Cymru’n trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, yn codi’r mater yn y Senedd a San Steffan, ac yn herio Llywodraeth Cymru hefyd.

‘Y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth’

“Mae gan ardaloedd gwledig Gwynedd a Chanolbarth Cymru angen hanfodol am y gwasanaeth achub bywyd hwn,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor mewn datganiad ar y cyd.

“Mae cyfuniad o gymunedau amaethyddol, gwledigrwydd a seilwaith ffyrdd gwael yn golygu mai’r Ambiwlans Awyr yw’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Yn wir, mae cau’r A493 rhwng Pennal a Machynlleth yn ddiweddar yn dangos yn berffaith pam mae ein cymunedau gwledig yn dibynnu ar argaeledd amserol yr Ambiwlans Awyr pe bai argyfwng meddygol yn codi, a bod argaeledd ambiwlansys ffordd yn annibynadwy.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau o’r cychwyn fod yn rhaid diogelu’r gwasanaeth achub bywyd hwn o fewn cyrraedd amserol ein cymunedau – galwad a gefnogir yn gan ein hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd.

“Dyma fydd ein cyfle olaf i wneud argraff ar y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau pam fod cadw’r Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng yn hollbwysig i gynnal ymateb brys, diogel ac amserol ar draws Gwynedd a Chanolbarth Cymru.

“Derbyniwyd ein galwad i gadw’r ddwy ganolfan yng Nghaernarfon a’r Trallwng ar agor a chyflwyno RRV (Cerbyd Ymateb Cyflym) yng Ngham 2 yr ymgynghoriad fel un o’r opsiynau gorau (Opsiwn 6) ar gyfer dyfodol hirdymor y gwasanaeth.

“Mae’r data diweddaraf yn amlwg yn atgyfnerthu’r angen i gadw’r ddwy ganolfan ar agor a bod unrhyw fudd arfaethedig o ganoli’r gwasanaeth yn Rhuddlan yn ymylol a dweud y lleiaf.

“Mae ein hetholwyr yn gryf o’r farn y dylai’r Ambiwlans Awyr barhau i hedfan o Gaernarfon a’r Trallwng.

“Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw’r cam olaf hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, ac er mwyn tryloywder byddwn yn annog Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans i ailedrych ar hyn cyn i’r cam olaf ddechrau.

“Nid yw’n afresymol i bobol fod â phryderon bod eu barn yn cael ei anwybyddu os yw’r dulliau o ymgysylltu â’r ymgynghoriad yn gyfyngedig.’

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eto i ddweud eu ddweud, i anfon neges glir at y Comisiynydd Ambiwlans na fydd dim llai na chadw’r ddau leoliad ar agor yn ddigon os ydym am gynnal yr un safonau gofal brys â heddiw.”

‘Dweud eich dweud’

“Rwy’n erfyn ar unrhyw un sy’n poeni am ddyfodol ein canolfannau Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng i gymryd rhan yn y cam olaf hwn o ymgysylltu,” meddai Andy O’Regan o Grŵp Ymgyrchu Save Our Bases.

“Os na chewch chi ddweud eich dweud rwan, chewch chi ddim cyfle arall, ac unwaith y bydd ein canolfannau wedi mynd, does dim modd dod â nhw yn ôl.’

“Felly cymerwch amser o’ch diwrnod i ddweud eich dweud!”