Mae sawl prosiect cyffrous wedi dwyn ffrwyth yn ystod y flwyddyn gan ddod â budd i drigolion a chymunedau Ceredigion, yn ôl arweinydd y Cyngor Sir.

Ymhlith y rheiny mae Arfor, Sbarc a Llwyddo’n Lleol – rhaglenni gafodd eu lansio i gefnogi mentergarwch a datblygu’r economi leol i gryfhau cadarnleoedd y Gymraeg.

Mae rhan gyntaf cyllid Twf Canolbarth Cymru hefyd wedi cael ei ryddhau i helpu economi’r sir.

Penllanw misoedd o waith, yn ôl y Cynghorydd Bryan Davies, oedd gweld cartref Gofal Hafan y Waun yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor, “gan sicrhau bod adnodd mor werthfawr yn parhau yn y sir ar gyfer ein poblogaeth hŷn”.

“Yn yr un modd, rwy’n falch gweld y gwaith yn dechrau ar adeiladu ysgol newydd sbon yn Nyffryn Aeron, ynghyd â’r datblygiadau i adnewyddu Neuadd y Farchnad Aberteifi,” meddai.

“Gwych hefyd yw gweld y peiriannau’n bwrw ati i wella amddiffynfeydd yr arfordir yn Aberaeron.”

Mae’n cyfeirio hefyd at agor Canolfan Les Llanbed yn gynharach eleni, “y cyntaf o’i math yn y sir sy’n darparu gwasanaethau i wella iechyd meddyliol, cymdeithasol a chorfforol unigolion i gyd o dan un to”.

“Byddwn nawr yn troi ein golygon at agor ail ganolfan les yn Aberteifi,” meddai.

Prosiectau eraill

“Rydym yn falch hefyd o ddarparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion Blwyddyn 6 ac iau, gan sicrhau ein bod ymhell ar y blaen o ran targed Llywodraeth Cymru,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies wedyn.

“Ymhlith y newyddion eraill, rydym wedi lansio cynllun arloesol i gefnogi pobol i gael mynediad at dai fforddiadwy yn y sir, sef Cynllun Tai Cymunedol Ceredigion, ac mae grantiau ar gael i adnewyddu eiddo gwag.

“Os yw’r materion hyn o ddiddordeb neu’n effeithio arnoch chi, cofiwch gysylltu â ni.”

Darlun ariannol “hynod o heriol”

Ond mae e hefyd yn rhybuddio am y darlun ariannol “hynod o heriol” sy’n wynebu Ceredigion yn 2024 – “hyd yn oed yn fwy herio na’r adeg hon y llynedd”.

“Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld diffyg sylweddol yn y gyllideb ar gyfer 2024-25, ac er y byddwn yn dal ati i geisio ffyrdd arloesol i ddarparu’r gwasanaethau sy’n ein gwneud yn falch i fyw yng Ngheredigion, fe fydd er hynny rhai penderfyniadau hynod o anodd i’w gwneud yn y flwyddyn newydd,” meddai.

“Fodd bynnag, mae yna lu o ddigwyddiadau i edrych ymlaen atyn nhw hefyd yn ystod y flwyddyn.

“Ceredigion fydd sir nawdd Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru yn 2024, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r holl ddigwyddiadau a ddaw yn sgil hynny.

“Yna, bydd cymal o bencampwriaeth Rali Ewrop yn cael ei chynnal yng Ngheredigion cyn diwedd y flwyddyn gan ddod â hwb ariannol sylweddol i’n heconomi.”

‘Diolch’

Wrth gloi ei neges ar ddiwedd y flwyddyn, dywed y Cynghorydd Bryan Davies ei fod yn “diolch yn ddiffuant” am waith aelodau etholedig a staff y Cyngor Sir “i gynnal a darparu gwasanaethau o safon i drigolion Ceredigion”.

“Gobeithio y cewch chi, bobl Ceredigion, seibiant haeddiannol dros gyfnod yr ŵyl.

“Efallai y bydd cyfle i grwydro’r sir a cherdded Llwybr yr Arfordir a ddathlodd ei ben-blwydd yn 15 oed yn 2023.

“Oes, mae gan Geredigion gymaint i fod yn falch ohono.

“Dymuniadau gorau i chi dros gyfnod yr ŵyl a blwyddyn newydd dda ar gyfer 2024.”